JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Trosolwg o Fethodoleg Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol (GLÂN)

Diweddarwyd ddiwethaf 29 Ebrill 2026

Diben a deddfwriaeth

Mae’r Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol (GLÂN) wedi cael ei gynllunio fel methodoleg monitro sbwriel at ddiben casglu data ar gyfer taliadau sbwriel Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR), Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) a pholisi arall yn ymwneud â sbwriel, yn ogystal â monitro lefelau glendid ar draws awdurdodau lleol.

Bydd glendid yn cael ei fesur yn unol â’r Cod Ymarfer diwygiedig ar Sbwriel a Gwastraff (COPLAR) sy’n ymwneud â Rhan IV o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Egwyddorion allweddol ar gyfer datblygu

Tryloyw

Mae’r dull a’r data yn dryloyw ac yn gallu cael eu cyfathrebu i’r holl randdeiliaid.

Cadarn

System gadarn sydd yn sicrhau dull samplu a chategoreiddio strategol ac arwyddocaol yn ystadegol, sydd yn addas at y diben wrth lunio polisi i’r dyfodol.

Teg

Mae’r systemau yn cipio digon o gategorïau a materion mewn ffordd deg a chynrychioliadol.

Defnyddiol

Gellir troi’r data yn ddadansoddiad gwybodus y gellir ei ddefnyddio i dargedu adnoddau a gweithredu ataliol yn ogystal ag effeithlonrwydd gweithredol.

Ar gael yn gyhoeddus

Mae’r data ar gael i’r cyhoedd a gellir ei ddadansoddi ar lwyfan cyhoeddus.

Samplu

Wedi ei uwchraddio o fethodoleg System Archwilio a Rheoli Amgylcheddol Lleol (LEAMS) a ddefnyddiwyd rhwng 2007 a 2024, mae methodoleg GLÂN yn cael ei wneud ar barciau sydd ar gael i’r cyhoedd, safleoedd dŵr ymdrochi, meysydd parcio, strydoedd a gorsafoedd trafnidiaeth, ac yn ystyried meysydd fel mannau gwyrdd ac agored, ymyl ffyrdd a llwybrau. Mae’r rhain wedi cael eu nodi trwy ddata geo-ofodol yr Arolwg Ordnans (OS) ac yn cael eu categoreiddio gan Cadwch Gymru’n Daclus yn ôl defnydd o dir o dan labeli trafnidiaeth, hamdden, masnachol, preswyl neu ddŵr ymdrochi.

Ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru, mae sampl sydd yn arwyddocaol yn ystadegol o safleoedd (ar lefel hyder o 90%) yn cael eu harolygu bob blwyddyn. Daw’r sampl hwn o gronfa fawr o safleoedd posibl. Bob blwyddyn, mae’r safleoedd i gael eu harolygu wedi eu lledaenu dros 20% o gyfanswm yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) ym mhob awdurdod lleol, sy’n cael eu dewis trwy raniad cyfartal o’r grwpiau amddifadedd cyffredinol o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

Mae hyn yn golygu bod y canlyniadau yn cynrychioli pob awdurdod lleol yn gyffredinol bob blwyddyn, ac ar ôl 5 mlynedd, bydd pob LSOA ym mhob awdurdod lleol wedi cael eu harolygu, gan greu darlun cyflawn o’r materion ar lawr gwlad.

Ym mhob LSOA, mae arolygwyr yn dewis “clwstwr” o safleoedd gyda chynrychiolaeth dda o’r mathau o ddefnydd o dir ynddynt, gan flaenoriaethu safleoedd nad ydynt yn rhai preswyl i gynyddu casglu data o’r defnydd llai cyffredin o dir os ydynt yn bresennol.

Sut mae safleoedd yn cael eu harolygu

Mae un arolwg yn cael ei gynnal ym mhob safle ac yn aml yn naturiol yn cynnwys ardaloedd lle mae mwy o ymwelwyr o amgylch y mynedfeydd i strydoedd, parciau a safleoedd eraill. Mae pob arolwg yn cynnwys ardal arolygu o ryw 50 x 10 metr sy’n cael ei arolygu trwy gerdded ar y ddwy ‘ochr’ o’r hyd o 50 metr i gwmpasu’r holl ardal. Mae’r lled o 10 metr yn seiliedig ar led cyfartalog stryd ac yn cael ei ddefnyddio i safoni’r ardal arolygu ar draws mathau gwahanol o dir.

Mae eitemau sy’n cael eu gweld y tu allan (ond o fewn pellter rhesymol o’r) ardal 50 x 10 metr hefyd yn cael eu cyfrif am y byddent hefyd yn dylanwadu ar amgyffrediad y cyhoedd o lendid safle. Fodd bynnag, mae data sbwriel ond yn cael ei gasglu o dir sydd yn hygyrch i’r cyhoedd h.y. ni fydd yn cynnwys gerddi preifat nac ardaloedd gyda mynedfa sydd yn derbyn tâl i fynd i mewn.

Casglu data

Mae tua 75 o eitemau neu grwpiau o sbwriel yn cael eu nodi ac yn cael eu cyfrif yn ystod yr arolwg.

Gallai nifer yr eitemau neu grwpiau o sbwriel sy’n cael eu cyfrif bob blwyddyn newid, yn seiliedig ar ychwanegu neu ddileu materion sy’n dod i’r amlwg neu’n digwydd dro ar ôl tro fel y bo’n briodol. Mae’r eitemau’n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, gynwysyddion diodydd, pecynnau bwyd, bonion sigaréts neu eitemau eraill sy’n ymwneud â smygu, eitemau cartref neu eitemau peryglus.

Am fwy o wybodaeth am yr eitemau o sbwriel neu’r grwpiau sy’n cael eu cyfrif yn GLÂN bob blwyddyn, cysylltwch â leq@keepwalestidy.cymru.

Mae data strydlun yn cynnwys wyth o Ddangosyddion Ansawdd Amgylcheddol Niweidiol (AEQI), sy’n wedi eu dylunio i bortreadu bod “gofod glân yn fwy nag absenoldeb sbwriel yn unig”. Y rhain yw seilwaith gyhoeddus, graffiti, postio anghyfreithlon, fandaliaeth, chwyn, malurion, baw cŵn a thipio anghyfreithlon.

Mae pob AEQI yn cael sgôr yn seiliedig ar ei gyflwr fel naill ai absennol, pas, sylw neu weithredu. Mae’r cyflwr ar gyfer baw cŵn yn cael ei gyfrifo’n awtomatig yn seiliedig ar sawl eitem o faw cŵn mewn bag a heb fag, ond mae’r AEQI sy’n weddill yn cael eu sgorio gan arolygwyr yn seiliedig ar y disgrifiad o’r cyflwr a’r meini prawf. Os oes unrhyw AEQI yn cael eu dehongli fel rhai maleusus neu beryglus, bydd cyflwr “gweithredu” yn cael ei ddewis ar gyfer yr AEQI hwnnw.

Sut mae safleoedd yn cael eu graddio

Er mwyn cyflwyno glendid safleoedd yn gyson, mae pob safle yn cael gradd sbwriel a baw cŵn.

Mae pob eitem neu grŵp sbwriel yn cael pwysoliad yn seiliedig ar gyfuniad o faint ac effaith. Mae’r rhan fwyaf o eitemau’n cael eu pwysoli ar 0.1, 0.2, 0.5 neu 1, fodd bynnag, mae eitemau neu grwpiau sy’n debygol o fod ag effaith fwy (fel baw cŵn, chwistrellau a pheryglon eraill) wedi cael eu pwysoli’n uwch.

[Cyfrif eitemau] x [Pwysoliad eitem] = Sgôr fesul eitem

[Swm yr holl sgorau unigol] = Sgôr sbwriel a baw cŵn

Sgôr sbwriel a baw cŵn =  Gradd

I gyfrifo’r radd sbwriel a baw cŵn, mae’r pwysoliad yn cael ei luosi gan y cyfrif o’r eitem sbwriel neu’r grŵp i roi sgôr fesul eitem neu grŵp. Mae’r sgorau unigol hyn yn cael eu cyfansymio i roi’r sgôr sbwriel a baw cŵn ar gyfer y safle. Mae’r sgôr sbwriel a baw cŵn yn troi’n radd yn uniongyrchol, ac mae gan bob gradd ddisgrifiwr o lefel y weithred sydd ei hangen gan awdurdod lleol neu dirfeddiannwr.

Os oes angen y tabl isod arnoch mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â leq@keepwalestidy.cymru.

 

Er mwyn cynrychioli teimlad cyffredinol safle mewn ffordd fanwl gywir a hawdd ei deall, mae pob safle yn cael gradd ‘Strydlun’.

I gyfrifo’r radd, mae pob AEQI a’u hamodau wedi cael sgôr yn seiliedig ar ddifrifoldeb ei effaith. Felly, po fwyaf o effaith mae AEQI yn ei chael yr uchaf y sgôr e.e. fandaliaeth a graffiti. Mae’r sgorau sydd yn gysylltiedig ag amodau pob AEQI ar gyfer safle yn cael eu cyfansymio gyda’i gilydd i greu’r sgôr strydlun.

[Swm sgorau AEQI unigol] = Sgôr strydlun

Sgôr strydlun = Gradd

Os oes angen y tabl isod arnoch mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â leq@keepwalestidy.cymru.

 

 

Dangosyddion perfformiad

Bydd dangosyddion perfformiad yn cael eu defnyddio i ddangos sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni mewn perthynas â safon ddynodedig. Mae safonau rheoliadol wedi lleihau neu wedi cael eu dileu ac nid oes rheoliadau a chanllawiau perthnasol wedi cymryd eu lle eto ond yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Yn y cyfamser, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i greu dangosyddion perfformiad dros dro:

Sbwriel a baw cŵn – Canran o safleoedd wedi cael gradd A1 i B5

Strydlun – Canran y safleoedd wedi cael gradd A a B

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13