Am y wobr
Rydym am glywed gan grwpiau cymunedol sydd wedi lleihau eu dibyniaeth ar gyllid grant allanol drwy, er enghraifft, redeg mentrau cynhyrchu incwm llwyddiannus, uwchsgilio aelodau a gwirfoddolwyr, neu ddefnyddio ffyrdd arloesol o ymgysylltu â’u cymunedau i sicrhau cynaliadwyedd ariannol a gwydnwch hirdymor.
Gallai enwebiadau gynnwys:
- Grwpiau sy’n cynhyrchu ac yn gwerthu eu cynnyrch eu hunain, er enghraifft compost cartref, siarcol, sudd afal o berllan neu fwyd dros ben o randir.
- Grwpiau sy’n casglu ac yn gwerthu eitemau diangen, megis sgrap metel neu ddillad y gellir eu hailddefnyddio.
- Grwpiau sy’n codi tâl am hyfforddiant neu wasanaethau eraill, megis gwneud torchau neu sesiynau gweithgareddau gwyliau.
- Grwpiau sydd wedi uwchsgilio aelodau a gwirfoddolwyr i fanteisio ar gyfleoedd newydd a gwella gwydnwch.
- Grwpiau sydd wedi cynnal mentrau codi arian llwyddiannus megis loterïau, cynlluniau aelodaeth, ymgyrchoedd cyllido torfol a phartneriaethau corfforaethol.
Mae pob enghraifft o gynhyrchu incwm a gwella gwydnwch yn cael ei chroesawu.
Gwybodaeth ofynnol
Mae’r categori hwn yn agored i unrhyw grŵp cymunedol, ysgol, CIC neu elusen.
Bydd y beirniaid yn chwilio am y wybodaeth ganlynol:
- Pa weithgareddau cynhyrchu incwm mae’r grŵp wedi’u cynnal i wella ei gynaliadwyedd ariannol a’i wydnwch? Rhowch gymaint o enghreifftiau ag y gallwch.
- Pa weithgaredd oedd fwyaf llwyddiannus, a pham?
- Faint o incwm yn fras sydd wedi’i gynhyrchu, a pha ganran o incwm blynyddol y grŵp mae hyn yn ei gynrychioli?
- Beth fu’r prif fanteision? Sut mae’r gwaith wedi helpu cynaliadwyedd hirdymor y grŵp?
- Pa heriau wynebodd y grŵp, a sut y gwnaethant eu goresgyn?
- Beth mae’r grŵp wedi’i ddysgu o’r profiad hwn, a pha gyngor fyddent yn ei roi i grwpiau eraill?
- Beth yw cynlluniau hirdymor y grŵp?
Lle bo hynny’n bosibl, dylech gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig o’r gweithgareddau.
Cyflwyno'ch enwebiad
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwn lawrlwytho fersiwn Microsoft Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom drwy e-bost neu’r post. Darperir y manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru.
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 18.00 ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.
Gwobrau Cymru Daclus 2026 ffurflen enwebu
Cysylltwch â ni
Angen help gyda’ch enwebiad? Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm.







