GWOBRAU CYMRU DACLUS 2026: ENWEBIADAU NAWR AR AGOR

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gwobr Arloesedd yr Economi Gylchol

Gyda chost amgylcheddol cynhyrchu’n cynyddu, mae’n hanfodol ein bod yn symud i economi gylchol – lle mae gwastraff yn cael ei osgoi, a deunyddiau a chynnyrch presennol yn cael eu defnyddio a’u hailddefnyddio cyhyd â phosibl.

Rydym yn chwilio am grwpiau, ysgolion a sefydliadau sydd wedi creu ffyrdd newydd ac arloesol o leihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac atgyweirio.

Am y wobr

Mae Gwobr Arloesedd Economi Gylchol yn tynnu sylw at syniadau sy’n lleihau gwastraff ac yn helpu i gadw deunyddiau mewn defnydd am gyfnod hirach.

Gall enwebiadau gynnwys:

  • Dylunio cynnyrch craff – creu dewisiadau amgen i eitemau untro.
  • Ailfodelu cadwyni cyflenwi.
  • Prosiectau arloesol sy’n gwneud ailgylchu yn haws.
  • Mentrau ail-ddefnyddio neu atgyweirio a arweinir gan y gymuned.

Gwybodaeth ofynnol

Mae’r categori hwn ar agor i grwpiau cymunedol, ysgolion, sefydliadau nid-er-elw, busnesau ac awdurdodau lleol.

Ar gyfer Gwobr Arloesedd Economi Gylchol, bydd y beirniaid yn chwilio am y wybodaeth ganlynol:

  • Beth yw’r cynnyrch, y prosiect neu’r fenter?
  • Pa syniadau Newydd sydd wedi’u gweithredu?
  • Beth fu’r effaith? Sut mae wedi newid ymddygiadau?
  • Beth yw’r cynlluniau hirdymor?
  • Pe fanylion sydd gennych am fudd y prosiect I’r gymuned ehangach?

Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.

Cyflwyno'ch enwebiad

Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

Os yw’n haws, gallwn lawrlwytho fersiwn Microsoft Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom drwy e-bost neu’r post. Darperir y manylion ar y ffurflen.

Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.

Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru.

Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 18.00 ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.

Gwobrau Cymru Daclus 2026 ffurflen enwebu

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13