GWOBRAU CYMRU DACLUS 2026: ENWEBIADAU NAWR AR AGOR

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gwobr Uno dros Effaith Amgylcheddol

Mae’r wobr hon sy’n dathlu pŵer mentrau amgylcheddol i gysylltu pobl a diwylliannau amrywiol ledled Cymru.

Mae’n cydnabod prosiectau rhagorol sy’n meithrin cynhwysiant, cydweithredu a chyfrifoldeb ar y cyd am ein byd naturiol; gan arddangos sut gall gweithredu amgylcheddol adeiladu cymunedau cryfach, mwy unedig.

Am y wobr

Bydd beirniaid yn chwilio am brosiectau sydd yn cynnwys unigolion o oedrannau, ethnigrwydd a galluoedd gwahanol, gan anrhydeddu’r rhai sydd wedi bod yn weithredol yn dod â chymunedau Cymru ynghyd i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol.  Mae’r wobr hon yn tynnu sylw at ymdrechion sydd nid yn unig yn gwella’r amgylchedd ond hefyd yn hyrwyddo dealltwriaeth, parch, a theimlad a rennir o berthyn.

Gallai’r enwebiadau gynnwys:

  • Man gwyrdd sydd yn pontio’r cenedlaethau, gan ddod â phobl hŷn a phreswylwyr iau ynghyd i rannu eu gwybodaeth am arddio.
  • Prosiect tyfu bwyd yn cynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phreswylwyr hirdymor, gan greu cyfleoedd ar gyfer integreiddio cymdeithasol a datblygu sgiliau.
  • Menter yn annog gwirfoddolwyr o gefndiroedd diwylliannol gwahanol i rannu eu gwybodaeth ecolegol traddodiadol a chydweithio i adfer cynefinoedd lleol.
  • Prosiect celf neu gerddoriaeth sydd yn ymgysylltu pobl o gefndiroedd gwahanol mewn mynegiant creadigol tra’n codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol.
  • Gardd synhwyraidd sydd wedi cael ei chreu neu ei haddasu i fod yn hygyrch ac ymgysylltu pobl ag anableddau amrywiol.

Gwybodaeth ofynnol

Mae’r categori hwn yn agored i unrhyw unigolyn neu grŵp.

Ar gyfer y Wobr Uno dros Effaith Amgylcheddol, bydd y beirniaid yn chwilio am y wybodaeth ganlynol:

Pa her amgylcheddol yr aed i’r afael â hi?

  • Sut mae’r prosiect amgylcheddol wedi dod â phobl o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol at ei gilydd?
  • Pa fathau o weithgareddau sydd wedi cael eu gwneud gyda’i gilydd?
  • Faint o bobl a sefydliadau sydd wedi bod yn gysylltiedig?
  • Sut mae’r gwaith wedi helpu i hyrwyddo dealltwriaeth, parch a pherthyn?
  • Beth gall eraill ei ddysgu o lwyddiant y prosiect?
  • Beth yw’r cynlluniau hirdymor?

Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.

Cyflwyno'ch enwebiad

Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

Os yw’n haws, gallwn lawrlwytho fersiwn Microsoft Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom drwy e-bost neu’r post. Darperir y manylion ar y ffurflen.

Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.

Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru.

Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 18.00 ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.

Gwobrau Cymru Daclus 2026 ffurflen enwebu

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13