Mae’r beirniaid yn awyddus i glywed am bobl ifanc y mae eu hymdrechion gwirfoddoli wedi gwneud eu cymunedau yn lanach, yn wyrddach ac yn iachach.
Mae’r wobr hon yn cydnabod pob cyfraniad, waeth pa mor fawr neu fach. Dylai’r enwebiadau gynnwys:
- Gweithredu ymarferol, uniongyrchol, fel codi sbwriel, plannu coed, creu cynefinoedd.
- Codi ymwybyddiaeth ac addysgu eraill. Gallai hyn olygu arwain clybiau amgylcheddol yn yr ysgol, cynnal ymgyrchoedd amgylcheddol, neu ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at faterion amgylcheddol.
- Ysbrydoli eraill trwy brosiectau creadigol. Meddyliwch am gelf, cerddoriaeth neu ffilm i ddod a materion amgylcheddol yn fyw, neu ysgrifennu erthyglau, straeon neu gerddi effeithiol.
- Hyrwyddo arferion cynaliadwy. Gallai hyn olygu trefnu rhaglenni ailddefnyddio neu ailgylchu, helpu sefydliad i leihau ynni neu arbed dŵr, neu hyd yn oed cynnal digwyddiadau codi arian ar gyfer achosion amgylcheddol.
Gwybodaeth ofynnol
Mae’r categori hwn ar gyfer pobl ifanc di-dâl o dan 25 oed yn unig. Mae croeso i chi enwebu unigolyn neu grŵp.
Eisiau enwebu rhywun dros 25 oed? Edrychwch ar y categori Gwirfoddolwr y Flwyddyn.
Ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn bydd y beirniaid yn chwilio am y wybodaeth ganlynol:
- Pa weithgareddau amgylcheddol sydd wedi cael eu cynnal?
- Pa mor aml?
- Pa effaith mae’r gwaith wedi ei chael? Er enghraifft, faint o sbwriel a godwyd, y bwyd sy’n cael ei dyfu neu faint o goed sydd wedi cael eu plannu.
Sut mae’r gweithgareddau wedi ysbrydoli pobl eraill i weithredu? Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.
Cyflwyno'ch enwebiad
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwn lawrlwytho fersiwn Microsoft Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom drwy e-bost neu’r post. Darperir y manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru.
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 18.00 ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.
Gwobrau Cymru Daclus 2026 ffurflen enwebu
Cysylltwch â ni
Angen help gyda’ch enwebiad? Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm.







