Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi enillwyr ein her arloesedd ysgolion, wedi ei hysbrydoli gan Wobr Earthshot, mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd ddoe (17 Mehefin).
Fel rhan o Her Hinsawdd Cymru, cafodd ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru eu gwahodd i gyflwyno fideos byr yn cyfleu syniadau creadigol i fynd i’r afael ag un o’r pum her byd-eang, neu ‘Earthshots’: Adeiladu Byd Diwastraff, Glanhau Ein Haer, Trwsio Ein Hinsawdd, Adfywio ac Adfer Natur ac Adfywio Ein Cefnforoedd.
Cafodd yr ysgolion canlynol eu cydnabod yn nathliad Her Hinsawdd Cymru yn Techniquest ym Mae Caerdydd, lle gwnaeth gwesteion arbennig ymuno â nhw, gan gynnwys cyflwynydd y BBC, Will Millard, yr ymgyrchydd natur Joe Wilkins ac Mrs Morfudd Meredith, Arglwydd Raglaw De Morgannwg.
Sgroliwch i lawr i weld y fideos buddugol neu ewch i adran Her Hinsawdd Cymru i wefan i ganfod mwy.
Enillodd Ysgol Gymraeg Ffwrnes yn Sir Gaerfyrddin ddwy wobr anhygoel, gan gipio’r anrhydedd uchaf yn y categorïau Adfywio Ein Cefnforoedd a Thrwsio Ein Hinsawdd. Canmolodd y beirniaid eu gwaith ar gynefinoedd morwellt ac angorfeydd eco, yn ogystal â’u gwaith yn edrych ar fwyd lleol i leihau allyriadau carbon.
Enillodd Ysgol Gynradd Griffithstown yn Nhorfaen y wobr Glanhau Ein Haer ar gyfer eu ffilm yn dangos cynllun yn seiliedig ar natur ac ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gerddi to gwyrdd pŵer solar i wella ansawdd aer.
Enillodd Ysgol Bryn Coch yn Sir y Fflint y categori Adeiladu Byd Diwastraff am eu hymchwil i leihau gwastraff a hyrwyddo ailddefnyddio, o gompostio ac ailddosbarthu bwyd i wisg ysgol ail-law. Gyda’i gilydd, fe wnaethant dynnu sylw at y ffordd y gall gweithredoedd bach greu newid parhaol.
Cipiodd Ysgol Penrhyn Dewi yn Sir Benfro y brif wobr yn y categori Adfywio ac Adfer Natur am atebion creadigol i golli bioamrywiaeth a llygredd dŵr, gan gynnwys diogelu afonydd a llynnoedd gyda phŵer solar.
Mae Her Hinsawdd Cymru’n cael ei reoli gan dîm Eco-Sgolion Cadwch Gymru’n Daclus, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Cafodd y seremoni ei chau gan yr Aelod Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd, wnaeth ganmol creadigrwydd y dysgwyr a’u hymrwymiad i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol.
Yr hyn a’m trawodd heddiw oedd nad yw’r bobl ifanc hyn yn dysgu am heriau amgylcheddol yn yr ystafell ddosbarth yn unig – maen nhw’n meddwl am syniadau ymarferol, go iawn a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau a thu hwnt. Gall camau gweithredu bach dyfu’n ymdrechion ysgol gyfan a sbarduno newid ledled Cymru a chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r heriau byd-eang yr ydym i gyd yn eu hwynebu. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi’r genhedlaeth nesaf i arwain y ffordd ar yr hinsawdd a natur – ac ar ôl heddiw, rwy’n teimlo’n fwy gobeithiol nag erioed. Mae’r dyfodol mewn dwylo da iawn. Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Aelod Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd
Mae wedi bod yn fraint treulio’r diwrnod yn Her Hinsawdd Cymru, wedi fy amgylchynu gan syniadau ac uchelgais pobl ifanc ledled Cymru. Mae’r prosiectau sy’n cael eu harddangos yn dystiolaeth nid yn unig o’u creadigrwydd, ond eu penderfynoldeb i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru a thu hwnt. Mae gweld y genhedlaeth nesaf yn arwain gyda chymaint o hyder yn rhoi pob rheswm i mi fod yn obeithiol am yr hyn sydd o’n blaenau.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Parhewch i ddarllen...

Data sbwriel ar gyfer dyfodol glanach
Darllen rhagor
Cyflwyno Eco-Tots Cymru: ysbrydoli cenhedlaeth ieuengaf Cymru
Darllen rhagor
48 lleoliad yng Nghymru yn cael eu coroni gyda’r traethau a’r marinas gorau yn y byd
Darllen rhagor








