DATHLU 330 O BARCIAU A MANNAU GWYRDD SYDD WEDI ENNILL GWOBRAU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Bioblitz Coedwrych ym Mharc Ystrad Mynach

Ymunwch â phrosiect y Goedwig Hir Drefol am ddiwrnod o hwyl ym Mharc Ystrad Mynach a chymerwch ran yn ein Bioblitz Coedwrych, cyfle i archwilio, adnabod a chofnodi’r bywyd gwyllt anhygoel sy’n byw yn ein coedwrych lleol. P’un ai eich bod yn newydd i natur neu eisoes yn caru bywyd gwyllt, mae croeso i bawb.

Dewch draw a:

  • Gwneud eich gwesty trychfilod bach eich hun i fynd gartref gyda chi.
  • Helpwch ni i ddarganfod a chofnodi’r bywyd gwyllt anhygoel sy’n byw mewn coedwrych fel rhan o’n Bioblitz Coedwrych.
  • Darganfyddwch fwy am brosiect y Goedwig Hir Drefol a darganfod sut gallwch gymryd rhan trwy wirfoddoli, hyfforddiant a digwyddiadau cymunedol.

P’un ai bod gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt, yn chwilio am rywbeth i’w wneud, neu’n chwilfrydig am natur ar drothwy’r drws, byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.

Mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli’r cyfle!

Mae prosiect y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, yn adfer ac yn dathlu coedwrych a choed hynafol ac aeddfed ledled Caerffili. Trwy wirfoddoli, hyfforddiant a digwyddiadau cymunedol, rydym yn gweithio gya phobl leol i helpu i ddiogelu a gwella’r cynefinoedd pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r prosiect, a wnaed yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen o addysg, hyfforddiant a chadwraeth ymarferol.

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Parc Ystrad Mynach, Heol Caerffili, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7EP
Cofrestrwch eich diddordeb
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13