Ers 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus wedi taflu goleuni ar arwyr amgylcheddol y mae eu hymroddiad yn helpu i greu cymunedau glanach, gwyrddach a mwy gwydn ledled Cymru.
Eleni, mae’r gwobrau, a noddir gan Wales & West Housing, unwaith eto wedi denu safon eithriadol o uchel o enwebiadau o bob cwr o’r wlad. O fynd i’r afael â sbwriel a thyfu bwyd i adfer natur a dod â chymunedau ynghyd, mae’r ymgeiswyr terfynol yn parhau i ddangos angerdd, creadigrwydd ac ymrwymiad arbennig.
Ymgeiswyr terfynol Gwobrau Cymru Daclus 2026 yw:
Gwobr Arloesedd yr Economi Gylchol
noddir gan HID
- Tom Raphael / Waste Not
- The Circular Studio
- Play Pod Chwarae
Gwobr Cymunedau Glanach
noddir gan Helping Hand Environmental
- Treforest Litter Pickers
- Joan Marner
- Cyngor Tref y Barri
Gwobr Tyfu Bwyd Cymunedol
noddir gan Clwyd Alyn
- Catherine Smyth / Bwyd Cymunedol Dinbych
- Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer
- Gogerddan Childcare
Gwobr Gwydnwch Grwpiau Cymunedol
noddir gan The Moondance Foundation
- Cardiff Rivers Group
- Crefftwyr Cricieth
- Merthyr Town FC Society
Gwobr Trawsnewid Cymuned
noddir gan Robert Price
- Havergardd Community Garden Youth Squad
- One Life Autism
- Harlech Community Garden
Gwobr Rhagoriaeth Eco-Sgolion Matt Bunt
noddir gan Wales & West Utilities
- Osbaston Church in Wales School
- Prendergast CP School
- Ysgol Penrhyn Dewi VA
Gwobr Natur yn y Gymuned
noddir gan Transport for Wales
- Merthyr Nat
- Friends of the Eco Park
- Caru Amlwch
Gwobr Uno dros Effaith Amgylcheddol
- Twts Tywi
- Eco-Warriors of Bran
- Aber Outdoors
Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Havergardd Community Garden Youth Squad
- Cameron Anderson / Under Aber
- Elise Pollock
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn
noddir gan Archer Technology
- Dawn Doyle
- Michael Roach
- Liz Burggraaf
Bydd ymgeiswyr terfynol 2026 yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni fawreddog Gwobrau Cymru Daclus yn Nheml Heddwch Caerdydd ym mis Hydref, lle bydd enillwyr y categorïau’n cael eu cyhoeddi a bydd Gwobr Cyflawniad Eithriadol yn cael ei chyflwyno i’r enillydd.
Mae safon yr enwebiadau eleni wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae ein hymgeiswyr terfynol yn cynrychioli’r gorau oll o ran gweithredu amgylcheddol yng Nghymru, gan ddangos sut y gall pobl leol greu newid cadarnhaol i’w cymunedau, i natur ac i genedlaethau’r dyfodol. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Hoffem ddiolch i’n holl noddwyr categorïau ac i’n prif noddwr, Wales & West Housing, sydd i gyd yn chwarae rhan mor bwysig wrth helpu Cadwch Gymru’n Daclus i ddathlu’r bobl a’r prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru.
Pob lwc i’n holl ymgeiswyr terfynol!
Parhewch i ddarllen...

Ffigurau newydd yn datgelu graddfa sbwriel yr haf ledled Cymru
Darllen rhagor
Mae 330 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, y nifer uchaf erioed, wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Baner Werdd 2026 wrth i’r wobr ryngwladol ddathlu 30 mlynedd
Darllen rhagor
Gweinidog Cabinet a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn uno i alw am haf o godi sbwriel
Darllen rhagor








