English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruSbwriel a gwastraff

Rhoi ffocws: diweddariad gan ein Tîm Polisi ac Ymchwil

Rhannu

Nid y tywydd yw’r unig beth sydd wedi bod yn destun trafod yr haf hwn. Mae wedi bod yn flwyddyn hynod brysur hyd yma i’n Tîm Polisi ac Ymchwil, gyda llawer o arolygon sbwriel, gweithgarwch polisi, cyfarfodydd â phartneriaid a Llywodraeth newydd yng Nghymru. Yma, mae’r tîm yn rhannu diweddariad ar rai o’r datblygiadau allweddol. Felly, beth sydd wedi bod yn digwydd?

Data sbwriel byw

Rydym wedi pasio’r pwynt hanner ffordd yn swyddogol yn ein harolygon sbwriel 2026 gan ddefnyddio ein methodoleg monitro newydd (GLÂN) a dreialwyd y llynedd.

Am y tro cyntaf, mae ein data byw ar gael ar ein gwefan, felly mae’n bosibl i chi gael golwg fanylach ar ddata sbwriel ledled Cymru neu yn eich ardal chi.

Gallwch archwilio mathau o sbwriel, pa mor “lân” oedd safle pan wnaethom ei arolygu a’r data arolwg penodol ar gyfer pob safle. Mae set ddata lawn 2025 ar gael, yn ogystal â’n data byw ar gyfer tymor arolwg 2026 sy’n parhau. Cofiwch ein diweddaru  – anfonwch e-bost at leq@keepwalestidy.cymru.

Mae Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru yn prysur agosáu

Oeddech chi’n gwybod, fod sbwriel diodydd ar 72.6% o’r safleoedd a arolygwyd gennym y llynedd? Amcangyfrifir bod hynny’n 4,347,008 o eitemau!

Rydym yn gobeithio y bydd poteli plastig sbwriel a chaniau alwminiwm yn dod yn rhywbeth o’r gorffennol wrth i Gynllun Dychwelyd Ernes (DRS) gael ei lansio ledled y DU ym mis Hydref 2027.

Bu ymateb anffafriol yn ddiweddar gan y diwydiant diodydd i uchelgais Cymru i gynnwys gwydr ac ailddefnyddio, ond mae tystiolaeth o enghreifftiau DRS rhyngwladol yn cefnogi cynnwys gwydr. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i yrwymo i’r rheoliadau yng Nghymru a basiwyd yn gynnar eleni. Mae pawb yn gweithio’n galed i roi sylw i’r manylion yn barod i’w lansio.

Rhannu ein barn ar yr egwyddorion mai’r llygrydd sy’n talu

Yn ddiweddar, fe wnaethom ymateb i ymgynghoriad ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) ar gyfer sbwriel. Yn syml, mae hyn yn golygu ein bod yn rhannu safbwyntiau Cadwch Gymru’n Daclus ar syniad polisi newydd i helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol.

Byddai EPR ar gyfer sbwriel yn golygu bod yn rhaid i gynhyrchwyr dalu tuag at y gost o lanhau sbwriel. Byddai hynny’n ysgafnhau’r baich ar drethdalwyr ac adnoddau awdurdodau lleol. Fe wnaethom ddarparu tystiolaeth (fel data sbwriel!) ac rydym yn cefnogi’n llawn yr egwyddor a’r cam o gyflwyno EPR ar gyfer sbwriel, a thanlinellwyd ein hegwyddorion allweddol:

  • Dull atal yn gyntaf.
  • Cyfrifoldeb cynhyrchwyr system gyfan.
  • Gwneud penderfyniadau dan arweiniad data.
  • Cysondeb cenedlaethol.

Ardollau ymwelwyr yn ennyn diddordeb

Rydym wedi ymateb i bedwar ymgynghoriad lleol hyd yma eleni i ddangos ein cefnogaeth i ardollau ymwelwyr. Mae twristiaeth yn hynod werthfawr i economi Cymru, ond gall hefyd roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau lleol ledled Cymru. Y  llynedd, pasiodd Llywodraeth Cymru gyfraith sy’n caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno ardollau ymwelwyr ledled y sir.

Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ledled y byd ac mae’r syniad yn syml – mae tâl bach i bobl sy’n aros mewn llety twristiaeth dros nos yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr ardal leol i’w chadw’n ddiogel, yn lân ac yn bleserus i ddenu ymwelwyr sy’n dychwelyd.

Mae ymgynghoriadau lleol yn annog ymatebion gan unigolion, busnesau a sefydliadau, felly cadwch lygad ar wefan Llywodraeth Cymru i weld a yw eich ardal yn cynnal ymgynghoriad.

Beth arall sydd ar y gweill?

Mae llawer mwy ar y gweill ar gyfer y Tîm Polisi ac Ymchwil. Byddwn yn ymateb i ymgynghoriadau ar sbwriel o gerbydau, tân gwyllt a phecynnau fepio. Byddwn hefyd yn cyfrannu at drafodaethau ar danau gwyllt, cemegion ‘am byth’ a rôl seilwaith gwastraff a biniau, neu “seilwaith”, wrth gefnogi cymunedau glanach.

Dilynwch ni ar Bluesky @policy.keepwalestidy.cymru am yr holl wybodaeth ddiweddaraf neu cysylltwch â ni ar leq@keepwalestidy.cymru gydag unrhyw gwestiynau.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13