English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Teithio Llesol yn Nhy’n y Wern

Rhannu

Teithio Llesol yn Nhy’n y Wern

Mae Ysgol Gynradd Ty’n y Wern wedi gwneud teithio llesol yn rhan allweddol o’i hymrwymiad i gynaliadwyedd, iechyd a llesiant. Trwy fentrau fel y Bws Beicio wythnosol, teithiau thema a’r ymgyrch Stroliwch a Rholiwch, mae’r ysgol wedi annog disgyblion, teuluoedd a staff i ddewis ffyrdd iachach a mwy cynaliadwy o deithio. Trwy wneud teithio llesol yn hwyl, cynhwysol ac wedi’i ganolbwyntio ar y gymuned, mae’r ysgol wedi helpu i adeiladu brwdfrydedd, cynyddu cyfranogiad, ac ysbrydoli newidiadau cadarnhaol mewn arferion teithio bob dydd.

Dywedwch wrthym am eich prosiect:

Fel Eco-Ysgol â baner Werdd Blatinwm, mae hyrwyddo teithio llesol yn rhan allweddol o ymrwymiad Ysgol Gynradd Ty’n y Wern i gynaliadwyedd, iechyd, llesiant a lleihau ei heffaith amgylcheddol. Trwy gydol y flwyddyn, mae disgyblion a’u teuluoedd yn cael eu hannog i gerdded, seiclo neu rolio i’r ysgol lle bynnag y bo’n bosibl.

Un o fentrau mwyaf llwyddiannus yr ysgol yw ei Bws Beicio wythnosol sy’n parhau i dyfu. Ar gyfartaledd, mae tua 20 o ddisgyblion, aelodau teuluoedd a staff yn cymryd rhan bob wythnos, gan deithio i’r ysgol gyda’n gilydd mewn ffordd ddiogel, hwylus a chymdeithasol. Yn ogystal, mae’r ysgol yn trefnu teithiau thema yn ystod y flwyddyn megis y digwyddiad Calon Gaeaf “Spook My Ride” gan helpu i wneud teithio llesol yn gyffrous yn ogystal ag annog hyd yn fwy o deuluoedd i gymryd rhan yn y fenter.

Yn ystod yr ymgyrch Stroliwch a Rholiwch, rhoddodd yr ysgol fwy o ffocws ar deithio llesol yn ystod gwasanaethau dyddiol, gweithgareddau dosbarth, cystadlaethau a chymhellion, gan ddathlu disgyblion sy’n dewis teithio’n llesol i’r ysgol.

 

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?:

Cafodd teithio llesol ei hyrwyddo ar draws yr ysgol gyfan trwy wasanaethau, trafodaethau dosbarth a chyfathrebu rheolaidd gyda theuluoedd trwy Seesaaw a chylchlythyr yr ysgol. Cymerodd pob dosbarth ran yn yr her Stroliwch a Rholiwch gydag anogaeth ddyddiol a diweddariadau gan helpu i gadw cymhelliant yn uchel trwy gydol yr ymgyrch.

Rhoddodd y Bws Beicio wythnosol gyfle i ddisgyblion, rhieni, gofalwyr a staff deithio i’r ysgol gyda’i gilydd, gan adeiladu hyder wrth seiclo ar yr un pryd â chryfhau cysylltiadau yn y gymuned leol. Ychwanegodd ddigwyddiadau thema gan gynnwys ‘Spook My Ride’, elfen o hwyl a chreodd gyfleoedd i deuluoedd newydd gymryd rhan yn yr ymgyrch.

Cynigiodd yr ysgol wobrau ar gyfer teithio llesol er mwyn cynnal brwdfrydedd yn ystod yr ymgyrch Stroliwch a Rholiwch, dathlwyd y rhai a gymerodd rhan mewn gwasanaethau a chafodd lwyddiannau eu rhannu ar draws yr ysgol. Roedd gwobrau’n cynnwys beiciau , sgwteri a ddaeth o fusnesau lleol.

Trwy gynnwys disgyblion, staff a theuluoedd, daeth teithio llesol yn fenter ysgol gyfan go iawn yn hytrach na her unigol.

 

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?:

Roedd Ysgol Ty’n y Wern am leihau effaith amgylcheddol teithiau i’r ysgol gan wella iechyd, llesiant ac annibyniaeth disgyblion,  gan ei bod yn Eco-Ysgol, Ysgol Galon y Gymuned ac Ysgol Teithiau Llesol Aur.

Mae annog mwy o deuluoedd i gerdded, beicio neu sgwtera yn helpu i leihau tagfeydd traffig o gwmpas yr ysgol, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach. Er bod llawer o ddisgyblion eisoes yn teithio’n llesol, wnaeth yr ysgol gydnabod bod yn le i wella cyfranogiad o hyd.

Felly, cafodd teithio llesol ei nodi’n darged pwysig gan ei fod yn cefnogi nodau amgylcheddol yr ysgol yn ogystal ag iechyd a llesiant y gymuned ehangach.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?:

Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar draws yr ysgol a’r gymuned ehangach. Yn ystod yr ymgyrch Stroliwch a Rholiwch, cynyddodd ganran y disgyblion a oedd yn teithio’n llesol o 69% i 83%, gan ddangos y gwahaniaeth mae hyrwyddo wedi’i ffocysu, anogaeth a synnwyr o gyfranogiad a rennir yn gallu eu gwneud.

Mae’r Bws Beicio yn parhau i dyfu gyda thua 15-20 o unigolion yn cymryd rhan bob wythnos. Mae wedi helpu teuluoedd i deimlo’n fwy hyderus am feicio i’r ysgol, wedi cryfhau perthnasoedd rhwng yr ysgol a’r gymuned ehangach, ac wedi creu amgylchedd cadarnhaol a chymdeithasol ar ddechrau bob diwrnod ysgol.

Yn ogystal, mae’r prosiect wedi codi ymwybyddiaeth am deithio cynaliadwy ac wedi annog teuluoedd i ystyried gwneud newidiadau tymor hir i’w harferion teithio.

 

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?:

Gwnaeth yr ysgol ddathlu cyflawniadau’r disgyblion yn ystod ymgyrch Stroliwch a Rholiwch trwy wasanaethau, cynnig gwobrau a chanmoliaeth gadarnhaol. Roedd digwyddiadau thema’r Bws Beicio megis “Bling My Ride” wedi darparu cyfleoedd llawn hwyl i ddathlu teithio llesol a chynnal brwdfrydedd yn ystod y flwyddyn.

Y camau nesaf yw parhau i dyfu’r Bws Beicio trwy gyflwyno llwybr newydd, trefnu mwy o deithiau thema yn ystod y flwyddyn ac annog hyd yn oed mwy o deuluoedd i gymryd rhan mewn teithio llesol. Bydd yr ysgol yn parhau i fonitro cyfranogiad ac edrych am ffyrdd newydd i wneud teithio cynaliadwy yn rhan bleserus a rheolaidd o fywyd yr ysgol.

 

A oes unrhyw beth arall yr hoffech chi rannu am y prosiect hwn?:

Mae’r prosiect hwn wedi dangos bod camau bach, cyson yn gallu arwain at newid sylweddol. Trwy wneud teithio llesol yn hwyl, cynhwysol ac wedi’i ganolbwyntio ar y gymuned, mae Ty’n y Wern wedi helpu i greu arferion parhaol sydd o fudd i ddisgyblion a’r amgylchedd.

Mae’r brwdfrydedd a gafodd ei dangos gan ddisgyblion, staff a’u teuluoedd yn dangos sut mae cynaliadwyedd wedi’i ymgorffori o fewn diwylliant yr ysgol. Mae’r prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Ty’n y Wern fel Ysgol Blatinwm Faner Werdd, Ysgol Galon y Gymuned ac Ysgol Teithiau Llesol Aur, yn ogystal â dangos sut y gall gydweithio droi teithio llesol yn rhan gadarnhaol o fywyd bob dydd yr ysgol.

Rwy’n dwlu ar y bws beicio wythnosol, mae’n llawer o hwyl ac mae’n fy annog i deithio’n llesol i’r ysgol.

Connor Blwyddyn 6

Rwyf wrth fy modd sut mae ein Bws Beicio wedi dod yn llawer mwy na ffordd o deithio i’r ysgol. Mae’n dod â’n cymuned ynghyd, gan roi cyfle i ddisgyblion, teuluoedd a staff dreulio amser gyda’i gilydd wrth wneud dewisiadau iachach mwy cynaliadwy. Mae gweld mwy o bobl yn ymuno bob wythnos yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall gydweithio ei chael!

Caroline ap Hywel Arweinydd Eco a Chymunedol
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Siop ‘dros dro’ i ail-garu hen wisg ysgol

Darllen rhagor
Mae rhes o grysau lliwgar yn hongian ar grogfachau pren o wialen wen yn erbyn cefndir gwyn.

Lleihau gwastraff bwyd ledled Torfaen

Darllen rhagor
Dysgwyr yn sefyll o flaen cynhwysydd metel, yn gwisgo gwisg goch.

Prosiect Innovate, Caerffili

Darllen rhagor
Eisteddodd dau berson ar fainc mewn parc, yn gwisgo dillad haf. Maen nhw wedi'u gosod wrth ymyl dau feic.
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13