English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Lles mewn Natur gyda Coed Danu CIC

Ymunwch â ni am sesiwn Holi ac Ateb fydd yn archwilio’r cysylltiad rhwng natur a lles emosiynol.

Bydd Elise Hughes, cyd-sylfaenydd Coed Danu CIC ac Ymarferydd Lles Emosiynol, yn ymuno â ni. Mae ei gwaith hi’n cyfuno seicoleg, ymwybyddiaeth o’r system nerfol a chysylltiad natur. Hefyd yn ymuno â ni bydd Tracy Hill, storïwr, ymarferydd creadigol a chyd-sylfaenydd Coed Danu CIC, sy’n defnydio stori a chreadigrwydd i helpu pobl i arafu, ailgysylltu a dod o hyd i ystyr.

Byddant yn sgwrsio gyda Morgan, Cydlynydd y Goedwig Hir Drefol, am eu profiadau ac yn rhannu cyngor ymarferol am y ffordd y gall treulio amser gyda natur gefnogi ein lles.

Oes cwestiwn gyda chi ar gyfer Elise neu Tracy? E-bostiwch ni yn longforest@keepwalestidy.cymru a gallwn eu cyflwyno iddynt yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb.

Gwylio’n fyw

Bydd y weminar yn cael ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook y Goedwig Hir Drefol, sianel Cadwch Gymru’n Daclus ar YouTube ac yma ar y dudalen digwyddiadau hon, does dim angen cadw lle. Cadwch y dudalen hon ar eich calendr ac ymunwch â ni yn fyw ar y diwrnod.

Dilynwch dudalen y Goedwig Hir Drefol ar Facebook a thanysgrifiwch i sianel YouTube Cadwch Gymru’n Daclus er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn ei cholli. Gallwch hefyd droi hysbysiadau YouTube ymlaen trwy glicio ar y gloch.

Ynglŷn â’r Goedwig Hir Drefol

Mae prosiect Y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, yn adfer ac yn dathlu coedwrych a choed hynafol ac aeddfed mewn cymunedau trefol ledled Cymru. Trwy ddod â natur yn agosach at y mannau lle mae pobl yn byw, mae’r prosiect yn helpu i gryfhau mannau gwyrdd lleol, cefnogi bioamrywiaeth, gwella lles ac ysbrydoli balchder cymunedol. Mae gweithgareddau yn digwydd ledled Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.

Gwnaed yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac mae’r prosiect hwn yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Coed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol.

Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen addysg, hyfforddiant a gweithredu ymarferol ar gadwraeth.

Rhowch nodyn atgoffa yn eich calendr ac ymunwch â ni am noson o sgwrsio am les, natur a chyngor ymarferol gan Coed Danu CIC. Ni ddylid ei cholli!

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Ar-lein
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13