Ymunwch â ni am weithdy ymarferol, am ddim wedi ei gynllunio ar gyfer grwpiau cymunedol sydd eisiau ymestyn eu tymor tyfu, datblygu gallu i wrthsefyll yr hinsawdd a chysylltu â gwirfoddolwyr eraill.
Wedi ei gynnal gan Ardd Gymunedol a Choetir Meadow Street, Trefforest, bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan gydlynydd y prosiect, Holly Usher, ac yn cyfuno dysgu ymarferol gyda chyfleoedd i rannu syniadau a phrofiadau.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad: Dydd Mawrth 20 Hydref
Amser: 9.30am – 1.00pm
Lleoliad: Gardd Gymunedol a Choetir Meadow Street, Trefforest, CF37 1UD
Yn ystod y sesiwn, byddwch:
- Yn cymryd rhan mewn gweithdy ymarferol yn archwilio sut i dyfu bwyd o dan orchudd a gwneud y gorau o’ch lle tyfu trwy gydol y flwyddyn.
- Dysgu sut i gadw gardd fwyd yn gynhyrchiol yn ystod misoedd y gaeaf.
- Cymryd rhan mewn trafodaeth anffurfiol a sesiwn Holi ac Ateb yn cynnwys testunau fel gwrthsefyll yr hinsawdd, addasu i dywydd sy’n newid, recriwtio gwirfoddolwyr ac ysgogi gwirfoddolwyr.
- Rhwydweithio gyda grwpiau tyfu cymunedol eraill a rhannu profiadau mewn amgylchedd cefnogol a hamddenol.
Beth sy’n cael ei gynnwys?
- Mynychu am ddim
- Lluniaeth
- Ad-dalu costau teithio
- Cyfleoedd i rwydweithio gyda gwirfoddolwyr eraill
Cofrestrwch nawr
Mae’r lleoedd yn gyfyngedig i 20 o gyfranogwyr yn unig, felly cliciwch y botwm ‘Cofrestrwch eich diddordeb’ a llenwch y ffurflen i sicrhau eich lle.
P’un ai eich bod eisoes yn rhedeg gardd gymunedol neu eisiau syniadau newydd i gryfhau eich prosiect, mae’r gweithdy hwn yn gyfle gwych i gael sgiliau ymarferol, cysylltu ag eraill a pharatoi eich gardd ar gyfer y tymhorau i ddod.
Gwnaed y digwyddiad yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Moondance.
Mwy am Ardd Gymunedol a Choetir Meadow Street
Mae Gardd Meadow Street wedi cael ei thrawsnewid o fod yn safle oedd wedi gordyfu ac wedi’i niweidio gan lifogydd i fod yn lle rhagorol ar gyfer natur ac i dyfu bwyd. Er gwaethaf heriau parhaus, yn cynnwys llifogydd dro ar ôl tro, mae grŵp craidd o wirfoddolwyr ymroddedig wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu lle croesawgar i’r gymuned ehangach. I ganfod mwy, ewch i’w gwefan neu dilynwch nhw ar Facebook neu Instagram.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Gardd Gymunedol a Choetir Meadow Street, Trefforest, CF37 1UD







