Mae cymunedau, ysgolion, gwirfoddolwyr a sefydliadau o bob cwr o Gymru wedi cael eu cydnabod am eu cyflawniadau amgylcheddol eithriadol yng Ngwobrau Cymru Daclus 2026, a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Wedi’u cynnal yn Nheml Heddwch Caerdydd a’u noddi gan Wales & West Housing, roedd y gwobrau’n dathlu unigolion a grwpiau y mae eu gwaith yn helpu i greu cymunedau glanach, gwyrddach a mwy gwydn. Mae enillwyr eleni yn adlewyrchu thema bwerus: mae gweithredu lleol yn creu newid parhaol. O adfer cynefinoedd a thrawsnewid mannau a esgeuluswyd, i leihau gwastraff, tyfu bwyd ac ysbrydoli gwirfoddolwyr, mae eu llwyddiannau’n dangos sut y gall gweithredu amgylcheddol gryfhau cymunedau yn ogystal â diogelu natur.
Mae Gwobrau Cymru Daclus yn dathlu’r gorau oll sydd gan Gymru i’w gynnig. Mae pob un o’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn gofalu’n angerddol am y mannau lle maent yn byw, gweithio a dysgu.
Ar adeg pan fo cymunedau a natur yn wynebu heriau sylweddol, mae’r unigolion a’r sefydliadau hyn yn ein hatgoffa bod newid cadarnhaol yn dechrau’n lleol. P’un a ydynt yn adfer afonydd, yn dysgu plant i dyfu bwyd, yn creu lleoedd i fywyd gwyllt neu’n dod â chymunedau ynghyd, mae eu gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Dathlu rhagoriaeth amgylcheddol ledled Cymru
Ymhlith enillwyr eleni oedd Cardiff Rivers Group, a dderbyniodd y Wobr Gwydnwch Grŵp Cymunedol am eu dull arloesol o wella’r amgylchedd ac ymgysylltu â’r gymuned. Cyflwynwyd y Wobr Cyflawniad Eithriadol iddynt hefyd, gan gydnabod eu cyfraniad hirdymor at ddatblygu gwirfoddolwyr, gweithredu amgylcheddol a chefnogi elusennau lleol.
Roedd enillwyr eleni yn cynnwys:
- The Circular Studio (Caerffili), enillydd y Wobr Arloesedd yr Economi Gylchol, am drawsnewid gwastraff tecstilau drwy raglenni atgyweirio, uwchgylchu a rhannu sgiliau.
- Joan Marner (Bro Morgannwg), enillydd y Wobr Cymunedau Glanach, am arwain tîm o 76 o wirfoddolwyr sydd wedi casglu mwy na 2,000 o fagiau o sbwriel ac ailgylchu o’r amgylchedd lleol.
- Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer (Torfaen), enillydd y Wobr Tyfu Bwyd Cymunedol, am greu gofod tyfu ffyniannus sy’n dod â disgyblion, teuluoedd a’r gymuned ehangach ynghyd.
- One Life Autism (Blaenau Gwent), enillydd y Wobr Trawsnewid Cymunedol, am drawsnewid safle a oedd wedi’i esgeuluso ac yn dioddef o dipio anghyfreithlon yn ardd gymunedol fywiog.
- Ysgol Gynradd Prendergast (Sir Benfro), enillydd Gwobr Ragoriaeth Eco-Sgolion Matt Bunt, am wreiddio gweithredu amgylcheddol drwy fywyd yr ysgol a grymuso disgyblion i arwain prosiectau cynaliadwyedd.
- Grŵp Cymunedol Caru Amlwch (Ynys Môn), enillydd y Wobr Natur yn y Gymuned, am greu gofod natur cymunedol ffyniannus sydd bellach yn cynnal y boblogaeth fwyaf o lygod-y-dŵr a gofnodwyd ar Ynys Môn.
- Aberoutdoors (Ceredigion), enillydd y Wobr Uno dros Effaith Amgylcheddol, am ddod â thrigolion, myfyrwyr ac ymwelwyr ynghyd drwy wirfoddoli amgylcheddol.
- Dawn Doyle (Rhondda Cynon Taf), enillydd Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn, am ei harweinyddiaeth ysbrydoledig yng Ngerddi Cymunedol Brynna.
- Cameron Anderson, Undeb Aber (Ceredigion), enillydd Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn, am ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwirfoddoli amgylcheddol a gwaith cadwraeth.
Roedd y gwobrau hefyd yn cydnabod grŵp eithriadol o rownd derfynwyr y mae eu prosiectau’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau ledled Cymru.
Llongyfarchiadau i holl enillwyr a rownd derfynwyr Gwobrau Cymru Daclus 2026, a diolch am y gwaith rhyfeddol rydych yn ei wneud i warchod a gwella amgylchedd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Parhewch i ddarllen...

Croeso nôl, ysgolion! Mae blwyddyn newydd o weithredu Eco-Sgolion yn dechrau
Darllen rhagor
Rhoi ffocws: diweddariad gan ein Tîm Polisi ac Ymchwil
Darllen rhagor
Datgelu ymgeiswyr terfynol Gwobrau Cymru Daclus 2026
Darllen rhagor








