Mae ysgolion ar draws Torfaen yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn her newydd gyffrous i arbed 7 miliwn o litrau o ddŵr trwy roi ail fywyd i ddillad.
Nod Her Arbed Dŵr Torfaen yw codi ymwybyddiaeth am effaith amgylcheddol cynhyrchu dillad gan annog disgyblion, staff a theuluoedd i gofleidio buddion ailddefnyddio a chyfnewid dillad.
Cost ddŵr gudd ein dillad
Nid yw llawer ohonom yn sylwi faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio i wneud y dillad rydyn ni’n eu gwisgo bob dydd.
Gall cynhyrchu un crys-t cotwm ddefnyddio tua 2,700 o litrau o ddŵr. Dyma ddigon o ddŵr yfed i gynnal un person am bron i dair blynedd.
O dyfu cotwm i liwio’r ffabrigau, mae cynhyrchu dillad yn gosod pwysau enfawr ar adnoddau dŵr y byd. Yn fyd eang, mae’r diwydiant ffasiwn yn defnyddio digon o ddŵr bob blwyddyn i lenwi tua 37 miliwn o byllau nofio maint Olympaidd.
Er gwaethaf yr adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu dillad, mae miliynau o dunellau o decstilau yn cael eu taflu bob blwyddyn.
Nod Her Arbed Dŵr Torfaen yw dangos sut y gall newidiadau bach, fel dewis dillad ail-law neu ailddefnyddio gwisg ysgol nad yw’n ffitio ein plant rhagor, helpu i leihau gwastraff a chadw adnoddau gwerthfawr.
Cyfnewidiadau bach, arbedion mawr
Mae ysgolion eisoes yn gwneud gwaith gwych i annog pobl i ailddefnyddio dillad trwy gynnal digwyddiadau cyfnewid gwisg ysgol, siwmperi Nadolig, dillad arferol a mentrau eraill.
Mae’r her yn adeiladu ar y gweithgareddau hyn, gan annog ysgol i gynnwys eu Pwyllgorau Eco-Sgolion, eu disgyblion, eu staff a’u teuluoedd i wneud ailddefnyddio dillad yn ddewis cadarnhaol, arferol.
Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr her yn cofnodi nifer yr eitemau o ddillad sy’n cael eu hailddefnyddio neu eu cyfnewid yn ystod cyfnod yr her. I wneud y broses o dracio yn syml, gellir cyfrif bod pob eitem yn cyfateb ag arbed tua 2,000 o ddŵr. Bydd ysgolion yn cyflwyno eu cyfansymiau misol, gan ganiatáu i bawb weld sut mae eu hymdrechion yn cyfrannu tuag at darged y sir.
Rydyn ni eisiau plant a phobl ifanc i ddeall bod y dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud am ein dillad yn gallu cael effaith go iawn ar yr amgylchedd. Mae rhywbeth mor syml â phasio siwmper ysgol sy’n rhy fach ymlaen i rywun arall neu gyfnewid dilledyn yn lle prynu un newydd yn gallu arbed miloedd o litrau o ddŵr. Mae llawer o ysgolion eisoes yn gwneud pethau gwych er mwyn annog pobl i ailddefnyddio eitemau, ac mae’r her hon yn ymwneud â dathlu eu hymdrechion ac ysbrydoli rhagor o bobl i gymryd rhan yn yr her. Trwy gydweithio, mae ysgolion ar draws Torfaen yn cael y cyfle i arbed 7 miliwn o litrau o ddŵr. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa syniadau sydd gan y plant a gwylio’r arbedion yn tyfu trwy gydol y flwyddyn!
Jo Walters Swyddog Addysg Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’r her, a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno gan raglen Cadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae ysgolion ar draws y sir yn cael eu gwahodd i weithio tuag at darged uchelgeisiol o arbed 7 miliwn o litrau o ddŵr erbyn Mai 2027.
Mae'r her hon yn ffordd wych o helpu pobl ifanc i ddeall yr effaith y gall ein dewisiadau bob dydd ei chael ar yr amgylchedd. Gall rhywbeth mor syml ag ailddefnyddio gwisg ysgol, cyfnewid gwisg ffansi, neu basio dillad nad oes eu hangen mwyach ymlaen, wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bob tro rydym yn dewis ailddefnyddio eitem yn hytrach na phrynu un newydd, rydym yn helpu i arbed dŵr a fyddai fel arall yn angenrheidiol i dyfu, cynhyrchu a chludo cynhyrchion i gymryd eu lle. Drwy gydweithio, gall disgyblion, staff a theuluoedd helpu i arbed miliynau o litrau o ddŵr, gan ddangos bod ailddefnyddio eitemau nid yn unig yn dda i'r blaned, ond y gall hefyd arbed arian. Byddwn yn annog pob ysgol i gymryd rhan a'n helpu i gyrraedd ein targed uchelgeisiol o arbed 7 miliwn o litrau o ddŵr. Mae pob eitem a gaiff ei hailddefnyddio yn ein dwyn gam yn nes at y nod.
Cynghorydd Sue Morgan Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Dewch i gymryd rhan!
Mae’r her yn cael ei chynnal rhwng 21 Hydref a 28 Mai 2027, gyda gweithdy lansio ar-lein i ddisgyblion sy’n cymryd rhan ar 12 Tachwedd.
Bydd y gweithdy yn cyflwyno disgyblion i’r her, ôl-troed dŵr cudd dillad a darparu gweithgareddau llawn hwyl i helpu ysgolion i ddechrau arni.
P’un a yw eich ysgol eisoes yn cynnal digwyddiad cyfnewid gwisg ysgol neu’n ystyried cyflwyno digwyddiad cyfnewid dillad am y tro cyntaf, mae croeso i bawb gymryd rhan.
Ydych chi am i’ch ysgol gymryd rhan yn Her Arbed Dŵr Torfaen?
Anfonwch e-bost at Jo Walters, Swyddog Addysg Cadwch Gymru’n Daclus – Jo.Walters@keepwalestidy.cymru i ddysgu rhagor a chofrestru diddordeb eich ysgol.
Parhewch i ddarllen...

Gweithredu lleol yn creu newid parhaol: dathlu pencampwyr amgylcheddol Cymru yng Ngwobrau Cymru Daclus 2026
Darllen rhagor
Croeso nôl, ysgolion! Mae blwyddyn newydd o weithredu Eco-Sgolion yn dechrau
Darllen rhagor
Rhoi ffocws: diweddariad gan ein Tîm Polisi ac Ymchwil
Darllen rhagor








