English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruSbwriel a gwastraff

Baw cŵn yn cael ei ganfod ar bron un mewn 10 o safleoedd hamdden ledled Cymru

Rhannu Lawrlwythiau

Mae data newydd gan Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu bod baw cŵn yn breswennol ar 9.8% o safleoedd hamdden ledled Cymru, gan dynnu sylw at effaith barhaus cŵn yn baeddu mewn mannau cyhoeddus a rennir.

Daw’r canfyddiadau o arolygon a wnaed rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2026 gan ddefnyddio ein methodoleg Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol (GLÂN). Mae’r arolygon yn monitro ansawdd amgylcheddol mewn mannau sydd ar gael i’r cyhoedd ledled Cymru.

Risg i iechyd y cyhoedd

Cafodd baw cŵn ei gofnodi ar bron un mewn 10 o safleoedd hamdden, gan gynnwys parciau, meysydd chwarae, tiroedd hamdden ac ardaloedd chwarae. Ar draws yr holl safleoedd a arolygwyd, gan gynnwys strydoedd, meysydd parcio, mannau gwyrdd a thraethau dŵr ymdrochi, cafodd baw cŵn ei ganfod mewn 11.4% o leoliadau.

Rydym yn amcangyfrif bod tua 162,852 o achosion o gŵn yn baeddu ledled Cymru ar unrhyw adeg.

Yn ogystal â bod yn amhleserus, gall baw cŵn fod yn risg i iechyd y cyhoedd. Gall baw cŵn ledaenu clefydau fel toxocariasis a hydatidosis a gall wneud i bobl deimlo’n llai cyfforddus yn defnyddio parciau a mannau gwyrdd lleol.

Dim ond olion pawennau lle maen nhw’n chwarae!

Gyda chynnydd yn yr achosion o gŵn yn baeddu yn hysbys yn ystod y misoedd tywyllach, rydym yn defnyddio’r data diweddaraf i annog perchnogion cyfrifol trwy ein hymgyrch Gadewch Olion Pawennau yn Unig, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o’r ymgyrch, rydym yn rhyddhau ffilm 60 eiliad newydd yn cynnwys seren y Traitors, Fiona Hughes, fel llais husky y mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi ei achub. Mae’r ffilm yn atgoffa perchnogion cŵn am bwysigrwydd glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes a gwaredu’r gwastraff yn gyfrifol.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi Canllaw Baw Cŵn newydd. Mae’r papur yn tynnu sylw at beryglon iechyd ac effeithiau ehangach baw cŵn, tra’n amlinellu dulliau gweithredu arfer gorau ac offer ymarferol i helpu i’w atal a mynd i’r afael ag ef.

Lawrlwytho’r Canllaw Baw Cŵn Crynondeb

Efallai bod baw cŵn yn ymddangos yn fater bach, ond nid yw ei effaith ar ein cymuedau yn fach o gwbl. Gall wneud i bobl deimlo’n llai cyfforddus yn defnyddio parciau a mannau gwyrdd lleol, ac mae’n cyflwyno perygl gwirioneddol i iechyd hefyd. Gan fod y misoedd tywyllach bellach wedi cyrraedd, rydym yn atgoffa perchnogion cŵn nad oes unrhyw esgus. Os yw eich ci yn baeddu, codwch ef, ei roi mewn bag ac mewn bin. Mae’n weithred syml o barch at eich cymuned a’r amgylchedd.

Louise Tambini Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae'n wych gweld un o drigolion Cartref Cŵn Caerdydd yn serennu yn ymgyrch Gadael Ôl Traed yn Unig Cadwch Gymru’n Daclus. Mae hon yn neges bwysig iawn, ac rydym yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli pob perchennog ci i wneud y peth iawn, codi ar ôl eu cŵn a helpu i gadw ein cymdogaethau lleol yn lân, yn ddiogel ac yn bleserus i bawb.

Cynghorydd Ed Stubbs Aelod Cabinet dros Wastraff, Golygfeydd Stryd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Cyngor Caerdydd

Ymunwch â’n hymgyrch

Dyma sut gallwch gymryd rhan yn ein hymgyrch diweddaraf Gadewch Olion Pawennau yn unig:

  1. I ddechrau, byddwch yn berchennog cyfrifol. Pan fyddwch allan gyda’ch ci, bagiwch a biniwch eu baw bob amser.
  2. Tagiwch ni yn eich anturiaethau – Rhannwch eich lluniau wrth i chi archwilio parciau, traethau a mannau gwyrdd anhygoel Cymru. Tagiwch @KeepWalesTidy ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwch #BagiwchBiniwch.
  3. Rhannwch yr ymgyrch yn eich cymuned eich hun! Ewch i safle pecyn cymorth yr ymgyrch – www.brandbag.keepwalestidy.cymru i lawrlwytho deunyddiau’r ymgyrch am
Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13