Gyda chyd-aelodau Grŵp Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru, rydyn ni’n galw ar bob ysgol yng Nghymru i agor siop gyfnewid gwisg ysgol a dillad chwaraeon.
Cyflwynodd Grŵp Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru yr achos dros gyflwyno siopau cyfnewid gwisg ysgol ledled Cymru mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw (24 Tachwedd).
Er bod llawer o esiamplau gwych o siopau sydd wedi’u sefydlu yn barod mewn ysgolion a chymunedau dros y wlad, does dim mynediad hawdd at siop gyfnewid i lawer o deuluoedd yng Nghymru.
“Mae siopau cyfnewid gwisg ysgol yn gwneud gwisg ysgol yn fwy fforddiadwy ac yn grymuso pobl i wneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae’n wych i weld sut gymaint o ysgolion yn agor siopau cyfnewid. Os byddai siop gyfnewid gan bob ysgol, byddai’n lleihau’r stigma o gwmpas dillad ail-law. Rydym yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun cenedlaethol.”
Bryony Bromley Rheolwr Addysg Cadwch Gymru’n Daclus
Mae adroddiad Grŵp Dillad a Thecstilau Cynaliadwy Cymru yn cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer gwneud dillad a thecstilau’n fwy cynaliadwy yng Nghymru. Lansiodd yr adroddiad mewn digwyddiad arbennig a gafodd ei gynnal gan Ysgol Gyfun Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael siop gyfnewid gwisg ysgol lwyddiannus ers 2019.
“Mae’n bwysig i ni helpu teuluoedd yn Ysgol Gyfun Cynffig yn ystod yr argyfwng economaidd hwn– ond yn y pendraw ein nod yw addysgu ac annog pobl ifanc i warchod dyfodol ein planed.”
Corrie Edwards Athrawes Sbaeneg yn Ysgol Gyfun Cynffig
Lawrlwythiau
Parhewch i ddarllen...

Cyflwyno Eco-Tots Cymru: ysbrydoli cenhedlaeth ieuengaf Cymru
Darllen rhagor
48 lleoliad yng Nghymru yn cael eu coroni gyda’r traethau a’r marinas gorau yn y byd
Darllen rhagor
Lansio prosiect Y Goedwig Hir Drefol i adfer coedwrych Cymru
Darllen rhagor








