JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillMannau gwyrdd

Gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ennill gwobr gadwraeth flaenllaw

Rhannu

Mae gardd bywyd gwyllt Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a grëwyd yng Ngholeg Cambria yn Sir y Fflint wedi ennill gwobr am gadwraeth.

Derbyniodd y coridor bywyd gwyllt a’r ardd les newydd yng Ngholeg Cambria wobr yn y categori Busnes yng Ngwobrau cyntaf Bionet, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno.

Canmolodd Bionet, y bartneriaeth natur leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru, y gwaith o greu ardal fioamrywiol yn cynnwys dros 2,000 o fylbiau cynhenid, coed ffrwythau, coedwrych, bocsys adar, ystlymod a choedwrych a noddfa lle gall myfyrwyr, staff a’r gymuned wella eu hiechyd a’u lles.

Dechreuodd y cynorthwyydd dosbarth Brian Valentine a grŵp o ddysgwyr Twf Swyddi Cymru+, staff ac aelodau’r Academi Hyfforddeion Adeiladu’r gwaith ar y safle 40 metr sgwâr 12 mis yn ôl fel rhan o’n prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae ennill y wobr hon lai na 12 mis ar ôl i’r ardd a’r corodor bywyd gwyllt agor yn anrhydedd enfawr i ni. Am ei fod yn brosiect byw, bydd yn parhau i esblygu a thyfu, ond mae hyn yn rhoi llwyfan i ni wneud hyd yn oed mwy yn y blynyddoedd i ddod. Bydd adrannau eraill a’r coleg yn gyffredinol yn elwa ar y fenter hirdymor hon am ein bod wedi cynnwys datblygu a chynnal a chadw’r safle yn ein amserlen dosbarthiadau, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid fel Cadwch Gymru’n Daclus a busnesau lleol.

Brian Valentine Cynorthwyydd Dosbarth Coleg Cambria

Mae’r ardd yn un o 900 o fannau gwyrdd sydd wedi eu cael creu, eu hadfer a’u gwella ar draws y wlad, diolch i gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ariennir y prosiect gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, sydd yn cael ei rhedeg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Mae wedi bod yn bleser helpu Coleg Cambria i greu gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd mor hardd. Diolch i’r staff, y gwirfoddolwyr a’r disgyblion angerddol am wneud hynny’n bosibl. Bydd yr ardd hon o fudd i’r gymuned leol ac i fywyd gwyllt am flynyddoedd i ddod.

Wendy Jones Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Sir y Fflint

Mae’r gerddi nid yn unig o fudd i fywyd gwyllt a natur, ond maent hefyd yn gwneud gwahaniaeth i les corfforol a meddyliol y rheiny sydd yn gysylltiedig, nawr ac i’r dyfodol.

Mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac rydym wrth ein bodd bod un o’n gerddi a ariannwyd gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol gan Bionet am gael effaith mor fawr ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt a lles staff, myfyrwyr ac ymwelwyr yn y coleg. Mae’r wobr hon yn dangos pa mor bwysig yw creu natur ar eich stepen drws i bobl a bywyd gwyllt.

Louise Tambini Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13