JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillMannau gwyrdd

Gwnewch gais nawr am becyn gardd am ddim

Rhannu

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl!

Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ailagor, ac mae gennym gannoedd o becynnau gardd am ddim i’w rhoi i grwpiau a sefydliadau cymunedol.

Ers ei lansio yn 2020, mae dros 1,000 o erddi wedi cael eu creu, eu hadfer a’u gwella ar draws Cymru. Mae grwpiau a sefydliadau cymunedol o bob math a maint wedi cymryd rhan. Y llynedd, roedd hyn yn cynnwys y gwasanaethau brys, grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon ac elusennau anabledd.

Datblygwyd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ddechrau i helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau natur. Ond mae’r buddion wedi mynd ymhell y tu hwnt i greu cynefinoedd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt; mae’r gerddi newydd wedi helpu i ddod â chymunedau ynghyd ac wedi rhoi hwb gwerthfawr i iechyd a lles pobl. Rydym yn methu aros i weld mwy o grwpiau a sefydliadau yn cymryd rhan dros y misoedd i ddod, gan greu gofod newydd ar gyfer natur fydd yn cael ei fwynhau am genedlaethau. Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb, felly gwnewch gais nawr i osgoi cael eich siomi.

Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Beth sydd wedi ei gynnwys mewn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur?

Mae’r pecynnau am ddim yn amrywio o brosiectau garddio bach i berllannau cymunedol ac adnewyddu ar raddfa fawr. Mae pob un yn cynnwys planhigion cynhenid, offer a deunyddiau, canllawiau ar gyfer gosod yr ardd, a chymorth ymarferol gan ein swyddogion prosiect arbenigol.

Eleni gallwch ddewis o’r canlynol:

Pecynnau Dechreuol ar gyfer grwpiau sydd eisiau cynnal prosiect bach tyfu bwyd neu arddio bywyd gwyllt.

Pecynnau Datblygu ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd yn barod i wneud trawsnewidiadau mwy, gan greu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt ar raddfa fawr.

Perllannau Cymunedol – sy’n boblogaidd iawn! Eich cyfle i greu perllan fach i’ch cymuned ei mwynhau.

Sut wyf yn gwneud cais?

Mae’n broses syml. Dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a llenwch ffurflen gais ar-lein gan sicrhau eich bod yn ateb pob cwestiwn.

Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais, mae gennym gydlynwyr rhanbarthol wrth law i’ch tywys drwy’r broses.

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau a chyfranogiad cymunedol, yn ogsytal â’r rheiny mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau heb lawer o fynediad i natur. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir ar draws Cymru.

Caiff y ceisiadau eu hasesu bob pythefnos gan baneli grant prosiectau.

> Canfod mwy a gwneud cais

Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru.

Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13