JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Disgyblion a’r Senedd: Uwchgynhadledd Eco’r Senedd yn tanio trafodaethau amgylcheddol difyr

Rhannu

Ysgogodd pedair Eco-Sgolion uwchradd o Lanelli sgyrsiau amgylcheddol a gofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog Mark Drakeford mewn digwyddiad yn y Senedd ddiwedd mis Mehefin.

Cafodd Ysgol Coedcae, Ysgol Glan-y-Môr, Ysgol Bryngwyn ac Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd eu gwahodd i ymuno â’r Eco-Uwchgynhadledd gan Lee Waters, Aelod o’r Senedd dros Lanelli.

Rhannodd y disgyblion eu llwyddiannau o ran ysgogi newid amgylcheddol yn yr ysgol. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys datblygu bioamrywiaeth ar dir eu hysgolion, gwahardd offer un-tro yn y ffreutur, a sefydlu siopau cyfnewid dillad ar gyfer gwisg ysgol a ffrogiau prom.

Yn dilyn y cyflwyniadau cafodd y ddisgyblion ddadl fywiog gyda’r Prif Weinidog ar ddyfodol ynni yng Nghymru a’r argyfwng hinsawdd.

Roedd cynrychiolwyr o Coed Cadw a’r addysgwr newid hinsawdd Dr Jennifer Rudd yn bresennol hefyd.

Angerddol a gwybodus

Yn y ddadl ddeinamig a diddorol, heriodd y myfyrwyr aelodau’r Senedd yn ddi-ofn, gan ddefnyddio data gwyddonol ac enghreifftiau Cymreig i ddangos eu safbwyntiau.

Roedd themâu’n ymestyn o ynni niwclear a gwneuthuriad dur i’r diwydiant amaethyddol, ni adawodd y disgyblion unrhyw bwnc heb ei gyffwrdd.

Mae’r cysyniad o gynaliadwyedd yn amlwg yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth wrth i fyfyrwyr archwilio natur gyd-gysylltiedig cynaliadwyedd, gan ymchwilio i’w oblygiadau pellgyrhaeddol ar bobl, lleoedd a’r economi ehangach.

Y crych effaith

Wedi iddi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus bron i ddeng mlynedd yn ôl, roedd Bethan Evans-Phillips, Swyddog Eco-Sgolion Sir Gaerfyrddin wedi cwrdd â’r rhan fwyaf o ddisgyblion Llanelli pan oedden nhw’n dal yn yr ysgol gynradd.

Mae angerdd a brwdfrydedd y disgyblion wedi aros gyda nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen i’r ysgol uwchradd.

Wrth siarad yn yr uwchgynhadledd, soniodd Bethan am “crych effaith” y newidiadau bach sy’n cael eu rhoi ar waith gan ddisgyblion yn eu hysgolion. Dywedodd hi:

Rwyf bob amser wedi fy syfrdanu gyda gweithredoedd ysbrydoledig yr ysgolion, yr eco-bwyllgorau ac unigolion sy’n dangos penderfyniad i gael dyfodol gwyrddach, gwell. Mae llais y disgybl yn hollbwysig i lwyddiant y rhaglen Eco-Sgolion. Y bobl ifanc hyn sy’n gyrru’r gwaith o nodi targedau, gweithredu a gwneud gwahaniaeth.

Bethan Evans-Phillips Swyddog Eco-Sgolion

“Pobl ifanc yw’r eiriolwyr gorau ar gyfer gwneud ysgolion yn ecogyfeillgar”

Gan gydnabod difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd, roedd Mark Drakeford wedi cydnabod mai’r genhedlaeth nesaf fyddai’n ysgwyddo baich ei ganlyniadau. Pwysleisiodd rôl hanfodol pobl ifanc wrth ysgogi newid a phwysleisiodd yr angen am gefnogaeth gadarn i rymuso eu hymdrechion.

Gwnaeth y pwynt hwn yn glir i Aelodau eraill o’r Senedd ar 20 Mehefin, pan soniodd am lwyddiant yr Eco-Sgolion yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Dywedodd “mai pobl ifanc yw’r eiriolwyr gorau ar gyfer gwneud ysgolion yn ecogyfeillgar.”

Rydyn ni’n cytuno!

Yna cafodd y Prif Weinidog gyfle i siarad â disgyblion Ysgol Gynradd Oak Field yn y Barri. Arweiniodd disgyblion y Prif Weinidog gyda balchder o amgylch eu coedwig a’u gwrychoedd oedd newydd eu plannu gan fyfyrio ar yr angen i ofalu am goed a phwysigrwydd dysgu amgylcheddol.

Dysgodd y Prif Weinidog hyd yn oed am bwysigrwydd gwenyn gan y disgyblion tra’n blasu mêl o’u gwenynen ysgol ymhlith y coed oedd newydd eu plannu.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Eco-Sgolion

Gallwch chi gael yr holl newyddion diweddaraf gan Eco-Sgolion drwy ddilyn @EcoSchoolsWales ar Twitter, Facebook ac Instagram. 

Gyda gwyliau’r haf ar y gorwel, mae Cylchlythyr diweddaraf Eco-Sgolion Cymru yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyffrous.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13