Mae’r nifer uchaf erioed o Faneri Gwyrdd yn hedfan mewn mannau gwyrdd ledled Cymru heddiw, yn dilyn cyhoeddiad Cadwch Gymru’n Daclus o fannau sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd ar gyfer 2024/25.
Mae’r 291 o safleoedd yn cynnwys parciau, campysau prifysgol, ffermydd cymunedol, mynwentydd, rhandiroedd a chymdeithasau tai.
Nod Gwobr y Faner Werdd, a gyflwynir yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus, yw rhoi pobl mewn cysylltiad â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau. Mae’r gwobrau yn meincnodi parciau a mannau gwyrdd, fel bod ymwelwyr yn gwybod ble bynnag mae Baner Werdd, eu bod yn ymweld â lle rhagorol gyda’r safonau uchaf.
O’r cyfanswm, mae 31 safle cymunedol newydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sydd yn dangos cynnydd parhaus yn y gofod gwyrdd o ansawdd sydd ar gael i bawb ledled Cymru.
Mae’r safleoedd sydd newydd gael Baner Werdd ar gyfer 2024/25 yn cynnwys Parc Cathays yng Nghaerdydd a Pharc Gwledig Rogiet yn Sir Fynwy.
Mae cyfanswm o 199 o safleoedd Cymunedol yn nodi’r nifer uchaf erioed i Gymru, sydd bellach â mwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall sy’n cyflwyno cynllun y Faner Werdd.
Derbyniodd 31 o safleoedd cymunedol yng Nghymru Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf, sydd yn gam sylweddol ymlaen o ran argaeledd mannau gwyrdd o ansawdd uchel ledled y wlad. Mae hyn yn cynnwys Triongl Arcot ym Mro Morgannwg, Gardd Enfys yng Ngheredigion, a Chae Chwarae Brenin Siôr yn Sir Ddinbych.
Rwyf wrth fy modd bod gan Gymru bellach mwy o safleoedd sydd wedi derbyn gwobr gymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall yn y byd!
Rydym eisoes yr ail wlad orau o ran ailgylchu ac mae newyddion heddiw yn enghraifft arall o’r ffordd y mae Cymru yn arwain y ffordd ac rydym yn gweithio tuag at genedl gryfach, wyrddach.
Mae’r safonau sydd yn ofynnol i gyflawni statws Baner Werdd yn uchel iawn, felly rwy’n falch iawn i weld 31 o safleoedd ychwanegol yn cyflawni’r nod hwn a hoffwn longyfarch yr holl safleoedd sy’n cael eu cydnabod am ddarparu cyfleusterau rhagorol i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae ein mannau gwyrdd lleol yn chwarae rôl hanfodol yn ein cysylltu â natur, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden iach.
Huw Irranca-Davies Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd
Rydym wrth ein bodd i weld 291 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sy’n cydnabod gwaith caled pawb sydd yn gysylltiedig â chynnal a chadw’r safleoedd hyn.
Yn arbennig, rydym mor falch o weld bod Cymru yn gartref i fwy fyth o safleoedd cymunedol sydd wedi cael eu gwobrwyo, sydd yn sicrhau bod mannau gwyrdd o ansawdd uchel yn hygyrch i bawb, gyda’n safleoedd yn chwarae rhan mor bwysig yn lles corfforol a meddyliol cymunedau ledled Cymru.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Darganfyddwch ble mae’r parc Baner Werdd agosaf i chi
Mae rhestr lawn o’r holl fannau penigamp y gellir ei lawrlwytho isod. Neu ewch i’n map i chwilio am eich parc neu fan gwyrdd y Faner Werdd yn lleol.
Ymunwch yn y dathliadau ar y cyfryngau cymdeithasol
I glywed y newyddion diweddaraf, dilynwch @GreenFlagWales ar y cyfryngau cymdeithasol #BanerWerddCymru
Am gymorth cyfathrebu, cysylltwch â’r tim ar comms@keepwalestidy.cymru
Lawrlwythiau
Parhewch i ddarllen...

48 lleoliad yng Nghymru yn cael eu coroni gyda’r traethau a’r marinas gorau yn y byd
Darllen rhagor
Lansio prosiect Y Goedwig Hir Drefol i adfer coedwrych Cymru
Darllen rhagor
Trefnwch gasgliad Prosiect Ailwampio gyda Cadwch Gymru’n Daclus
Darllen rhagor








