Bydd y pecyn yn cynnwys
- 20 metr sgwâr o dywyrch blodau gwyllt
- Gwelyau uchel wedi’u gwneud o drawstiau pren
- Coeden ffrwythau gynhenid
- 100 pecyn coed bywyd gwyllt (coed bach gyda gwarchodwyr bioddiraddadwy a gwiail)
- Lwyni mewn potiau
- Planhigyn dringo
- Leiniwr pwll a thywod
- Planhigion dŵr a basgedi dŵr
- Berfa
- Compost ac uwchbridd di-fawn
- Planhigion plwg blodau gwyllt
- Pilen chwyn
- Planhigyn plwg blodau gwyllt
- Mainc blastig wedi ei hailgylchu
- Storfa offer metel
- Menig
- Can dŵr
- Offer llaw
- Bin compost
- Bocsys cynefin, a/neu borthwyr adar a hadau
- Llawlyfrau / llyfrau gwybodaeth
Gallai cynnwys pecynnau newid
Gwybodaeth bwysig
Isafswm yr ardal sydd yn angenrheidiol ar gyfer y pecyn hwn yw 240 metr sgwâr. Mae pob eitem yn cael ei darparu fel pecyn – nid yw’n bosibl mynd ag eitemau oddi yno. Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion a gyflenwir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen gan wirfoddolwyr. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd angen i chi eu darparu cyn dechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o gynyddu eich siawns o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar becyn Gardd Bywyd Gwyllt.
Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.
Cysylltwch â'r tîmMae angen llawer llai o le ar ein Pecynnau Gardd Fach a gall unrhyw grŵp cymunedol neu wirfoddol wneud cais.
Darganfod mwy







