Y pecynnau
Cliciwch ar y blychau isod i gael gwybod mwy ac i ymgeisio. Ac edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr holl newyddion diweddaraf.

Tyfu eich bwyd eich hun i'ch cymuned ei gynaeafu a'i fwynhau.
Gardd Fwyd Fach
Creu lle i'ch cymuned ei fwynhau ac i fywyd gwyllt ffynnu
Gardd Bywyd Gwyllt Fach
Chwilio am brosiect fwy o faint?
Mae ein Pecynnau Gardd ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ar raddfa fwy.
Fe wnaeth preswylwyr Awel y Dyffryn a’r plant o Ysgol Twm o'r Nant fwynhau gweithio gyda’i gilydd i ddechrau adran tyfu bwyd yr ardd, mae gennym syniadau yn barod ynghylch sut i ymestyn i dyfu mwy o ffrwythau, llysiau a pherlysiau ac mae’r plant yn edrych ymlaen i ddychwelyd yn y gwanwyn i weld sut mae’r planhigion wedi tyfu!
Grŵp Cynefin - Awel y Dyffryn Sir Ddinbych
Gyda’n pecyn bywyd gwyllt gan Cadwch Gymru’n Daclus rydym wedi gweld gweithgaredd sy’n pontio’r cenedlaethau, gyda’r gymuned leol yn dod ynghyd i adeiladu gardd flodau. Gall preswylwyr lleol nawr ymlacio, garddio a mwynhau natur tra bod eu plant yn chwarae’n ddiogel.
Dewi Gwyn, Cyngor Cymuned Penmynydd a Star Ynys Môn














