JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gardd Bywyd Gwyllt Fach

Gallwch greu gardd fach sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac yn llawn amrywiaeth o gynefinoedd i beillwyr ffynnu.

Byddwn yn rhoi’r holl ddeunyddiau, yr offer a’r canllawiau sydd eu hangen arnoch i roi help llaw i natur ‘ar eich stepen drws’. Bydd hyd yn oed rhywfaint o gymorth swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’ch helpu chi i osod eich gardd newydd.

Nôl i Becynnau Bach
Gwenynen ar flodyn
Person yn dal can dyfrio, yn gwisgo cot hir ddu, yn dyfrio planhigion.

Bydd y pecyn yn cynnwys

  • Bocsys cynefin
  • Planhigion dringo a llwyni
  • Gwely uchel, compost a delltwaith
  • Planhigion blodau gwyllt brodorol
  • Offer llaw
  • Menig
  • Can dŵr
  • Llawlyfr

Gallai cynnwys pecynnau newid

Eisteddodd buwch goch gota ar laswellt mewn dôl.

Gwybodaeth bwysig

Isafswm yr ardal sydd yn angenrheidiol ar gyfer y pecyn hwn yw pum metr sgwâr.

Bydd yr amrywiaeth o lwyni, planhigion a pherlysiau a ddarperir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae’n bwysig iawn eich bod yn deall pa wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen cyn i chi ddechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o roi hwb i’ch cyfle i fod yn llwyddiannus a chael gafael ar Becyn Gardd Bywyd Gwyllt Gardd Bywyd Gwyllt Fach.

Cwestiynau Cyffredinol Pecyn Gardd Bach Gwnewch gais nawr
Angen cymorth gyda’ch cais?

Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.

Cysylltwch â’r tîm
Oes gennych le ar gyfer gardd fwy?

Gwnewch gais am ein Pecyn Gardd – trawsnewidiad ar raddfa fawr wedi ei gynllunio i gynnwys y gymuned gyfan.

Darganfod mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13