Cwestiynau Cyffredinol
Darllenwch y canlynol cyn cyflwyno eich cais.
Gallai cynnwys pecynnau newid.
Archeb 1 – planhigion a ddanfonir mewn blychau gan cludwr:
- Blodau bwytadwy
- Planhigion mefus
- Llwyn sydd yn dwyn ffrwyth mewn pot
- Planhigion dringo
Archeb 2 – gwelyau uchel ac offer yn cael eu danfon ar baled gan lori:
- 1x siswrn tocio, 3x trywel, 10x pâr o fenig
- 4x gwelyau uchel (1m x 1.2m x 20cm)
- 28x sach o uwchbridd (700 litr)
- Compost di-fawn (650 litr)
- 20x labeli planhigion
Archeb 3 – eitemau masnachwr adeiladu a ddanfonir ar lori:
- 2x delltwaith (1.2m x 1.83) a 4x pyst delltwaith
- 1x can dŵr
Archeb 4 – adnoddau a ddanfonir mewn blychau mawr gan cludwr:
- 1x Llyfr Fy Ngardd Ffenestr Fechan
- Bocsys cynefin
Gallai cynnwys pecynnau newid.
Archeb 1 – planhigion a ddanfonir mewn blychau gan cludwr:
- Blodau gwyllt
- Llwyni
- Planhigion dringo
Archeb 2 – gwelyau uchel ac offer yn cael eu danfon ar baled gan lori:
- 1x siswrn tocio, 3x trywel, 10x pâr o fenig
- 4x gwelyau uchel (1m x 1.2m x 20cm)
- 28x sach o uwchbridd (700 litr)
- Compost di-fawn (650 litr)
- 20x labeli planhigion
Archeb 3 – eitemau masnachwr adeiladu a ddanfonir ar lori:
- Bocsys cynefin
- 1x Llyfr Bach RHS o Arddio Gofod Bychain
Archeb 4 – adnoddau a ddanfonir mewn blychau mawr gan cludwr:
- 2x tyllwr bylbiau
- 1x can dŵr
- 2x delltwaith (1.2m x 1.83) a 4x pyst delltwaith
Cyn ymgeisio, darllenwch y gofynion hanfodol canlynol i ymgeiswyr:
- Rhaid i ymgeiswyr weithio gyda staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth gynllunio’r gwaith o osod pecynnau.
- Rhaid i becynnau sicrhau twf amgylcheddol y gellir ei weld ‘ar garreg eich drws’. Mae hyn yn golygu y dylid eu lleoli lle mae pobl yn byw, yn gweithio, yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yn teithio (gall hyn gynnwys lleiniau ymyl ffordd, cylchfannau) ac yn treulio eu hamser hamdden (e.e. mannau agored cyhoeddus).
- Mae’n rhaid cyflwyno pecynnau a ddyfernir rhwng 1 Ebrill 2026 a diwedd Chwefror 2027.
- Rhaid i ymgeiswyr gytuno i gynnal y safle am bum mlynedd o leiaf a chael cynllun yn ei le ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol (mae’n bosib y bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn gallu eich helpu i lunio hwn).
- Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ffotograffig a data monitro i Cadwch Gymru’n Daclus, fel nifer y cyfranogwyr, dyfyniadau gan fuddiolwyr a llofnodi cofrestr asedau i nodi eu bod wedi derbyn holl eitemau’r pecyn.
- Gofynnir i ymgeiswyr roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddatganiadau i’r wasg, gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir.
- Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw bod ar y safle i dderbyn nwyddau gan gyflenwyr.
Pwy all ymgeisio am becynnau?
Mae ein pecynnau wedi cael eu dylunio i sefydliadau sy’n dymuno creu prosiectau gerddi natur ar dir sydd dan ‘berchnogaeth nid-er-elw’.
Mae’r broses o wneud cais yn agored i grwpiau cymunedol o bob math a maint, a sefydliadau eraill gan gynnwys y GIG, llywodraeth Leol a Chenedlaethol (gan gynnwys cynghorau Tref a Chymuned), ysgolion a meithrinfeydd cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, sefydliadau crefyddol, mentrau cymdeithasol, prifysgolion, cymdeithasau tai a’r Sector Cyhoeddus ehangach yng Nghymru, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru.
Rhoddir blaenoriaeth i’r prosiectau hynny sy’n cyflawni holl ofynion y broses o wneud cais ac sydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau trefol/lled-drefol neu drefi gwledig, sy’n cynnwys aelodau difreintiedig y gymuned, sydd â chyfranogiad cymunedol neu wirfoddol cadarn, sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd â’r lefel uchaf o amddifadedd (a nodwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru), a mynediad isel iawn, os o gwbl, i fyd natur.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sydd yn cynnwys cyfranogwyr Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig a / neu anabl. Gellir rhoi blaenoriaeth hefyd i safleoedd y mae’r panel wedi eu nodi i fod a) yn darparu cysylltedd addas â gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur arall, gwarchodfa natur leol neu safle arall sy’n cael ei warchod (e.e. SSSI, SPA ac ati) o fewn 500m, neu b) yn fwy na 200m o unrhyw fan gwyrdd neu gwrs dŵr.
A all ysgolion ymgeisio?
Gall unrhyw ysgol wneud cais am Becyn Gardd Fach.
Pwy sydd ddim yn cael ymgeisio?
- Unigolion / gerddi preifat
- Sefydliadau’r sector preifat
Noder, os ydych eisoes yn derbyn cyllid ar gyfer eich gweithgarwch neu safle gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol neu eich Partneriaeth Natur Leol, mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau a allai effeithio ar eich cais. Cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus yn y gorffennol, allwn ni wneud cais eto?
Mae’n dibynnu ar sut mae eich prosiect yn bodloni’r meini prawf a’r lleoliad arfaethedig. Cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i drafod syniadau prosiect penodol, ond yn gyffredinol:
Rydym yn awyddus i weld grwpiau sydd wedi gosod Pecynnau Gardd Fach (oedd yn arfer cael eu galw’n ‘Becynnau Dechreuol’) yn llwyddiannus yn gwneud cynnydd i’n Pecynnau ar raddfa fwy, felly os yw hynny’n berthnasol i chi a’ch bod yn bodloni’r holl feini prawf, rydym yn eich annog i wneud cais am Becyn Gardd neu Becyn Gardd Enfawr ar gyfer yr un safle neu safle gwahanol. Gallwch wneud cais am Becyn Gardd Fach arall ond ar gyfer safle gwahanol yn unig. Noder er hynny bod blaenoriaeth yn debygol o gael ei rhoi i ymgeiswyr nad ydynt wedi ymgeisio o’r blaen.
Pwy ydych yn ystyried yn grŵp difreintiedig/grŵp wedi ymddieithrio?
Rydym yn croesawu ac yn cefnogi ceisiadau gan grwpiau difreintiedig/wedi’u tangynrychioli a’r rhai â gallu cyfyngedig i gymryd rhan mewn prosiectau fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Bydd ceisiadau yn derbyn sgôr uchel os ydynt yn cynnwys cyfranogwyr o’r grwpiau canlynol:
- Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol
- Anabl
- Digartref
- Pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- Sipsiwn / Roma / Teithwyr
- Pobl â chyflyrau iechyd meddwl
- Plant / plant mewn gofal / pobl ifanc
- Gofalwyr
- Pobl hŷn
- Rhieni yn eu harddegau / rhieni sengl
- Dioddefwyr cam-drin domestig
- Troseddwyr
- Pobl o gymunedau rhywiol lleiafrifol
- Dan anfantais economaidd-gymdeithasol
- Y rheiny na all ddarllen, ysgrifennu na siarad Cymraeg neu Saesneg
- Grwpiau ffydd nad ydynt yn Gristnogion
- Pobl â nodweddion gwarchodedig
Nid ydym yn grŵp o dan anfantais, allwn ni barhau i wneud cais?
Gallwch. Mae gan y cynllun feini prawf eraill y bydd angen i ymgeiswyr arddangos eu bod yn eu cyflawni (gweler uchod). Wedi dweud hynny, rydym yn annog pob ymgeisydd i esbonio sut maen nhw wedi ymgynghori ag aelodau o’u cymuned leol sy’n ddifreintiedig/wedi’u tangynrychioli, a sut y byddan nhw’n cymryd rhan yn y prosiect, oherwydd rydym yn awyddus i’r prosiectau fod mor gynhwysol â phosibl. Bydd cynnwys grwpiau difreintiedig yn atgyfnerthu eich cais, gan roi siawns uwch o lwyddiant i chi.
A oes angen i ni fod yn grŵp cyfansoddedig i wneud cais am Becyn Gardd Fach?
Nac oes.
Gall swyddogion Cadwch Gymru’n Daclus eich cefnogi i ddod yn grŵp cyfansoddiadol. Mae gennym gyfansoddiadau templed ar gael, a gall ein tîm o swyddogion cymunedol eich helpu drwy’r broses syml. Ewch i’n tudalen tîm (adran gweithredu cymunedol) am fanylion ynglŷn â’ch swyddog prosiect lleol neu gofynnwch i’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am gyngor.
Sut wyf yn gwneud cais?
Dylech gyflwyno’r ffurflen gwneud cais berthnasol drwy wefan Cadwch Gymru’n Daclus. Nid yw’n ofyniad i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i wneud cais, ond dylech nodi, ar ôl i chi ddechrau eich cais, na allwch arbed eich gwybodaeth a dychwelyd ati’n ddiweddarach.
Nid oes unrhyw ddyddiadau cau penodol, ond bydd pecynnau’n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, nes y bydd pob pecyn wedi’u dyrannu. Dylech ateb pob cwestiwn o fewn yr uchafswm geiriau a argymhellir.
Sut mae’r ceisiadau’n cael eu hasesu a’u dewis?
Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel grantiau a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus, Llywodraeth Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac arbenigwyr natur lleol.
Bydd y ceisiadau’n cael eu barnu yn erbyn meini prawf y rhaglen, a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n cyflawni o leiaf tri o feini prawf allweddol canlynol y cynllun:
- Lleoedd heb lawer o fynediad at natur, os o gwbl – Rhoddir blaenoriaeth i safleoedd heb unrhyw fannau gwyrdd o gwbl a’r rhai ar arwynebeddau artiffisial (e.e. tarmac, concrid).
- Trefol / lled-drefol a threfi gwledig
- Tleoedd â’r lefelau uchaf o amddifadedd – rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr yn y 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, yn ôl ardaloedd cynnyrch ehangach.
- Ceisiadau sy’n cynnwys grwpiau difreintiedig, wedi ymddieithrio neu wedi’u tangynrychioli, cyfranogwyr Du, Asiaidd, Ethnig Lleiafrifol (nam corfforol a dysgu, gan gynnwys nam gweledol, nam ar y clyw a nam ar y lleferydd).
- Dylai ymgeiswyr arddangos cyfranogiad cymunedol eang gydag o leiaf pum gwirfoddolwr rheolaidd ac ystod o sefydliadau sy’n gallu cael mynediad at natur ar ôl creu’r ardd.
Wrth ystyried y ceisiadau, bydd y panel yn dyfarnu pecynnau ar draws ystod eang o leoliadau/ partneriaid/ sefydliadau er mwyn gallu treialu a monitro gwahanol ddulliau gweithredu.
Bydd y panel yn penderfynu a yw cais yn:
- Llwyddiannus
- Aflwyddiannus
- Ar y rhestr ‘wrth gefn’
Os bydd pob un o’r blaenoriaethau uchod yn derbyn sgôr gyfartal, yna dyfernir y pecyn i’r ymgeisydd yn yr ardal â’r lefel gyffredinol uchaf o amddifadedd yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a lle gallaf ddysgu mwy?
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Cafodd ei gynllunio i nodi’r ardaloedd bychan hynny sydd â’r crynodiad uchaf o wahanol fathau o amddifadedd. Mae MALlC yn cynnwys wyth math gwahanol o amddifadedd ar hyn o bryd.
Cliciwch yma i weld map rhyngweithiol MALlC o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau yn y 50% ardal fwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegau amddifadedd (e.e. corfforol, addysg, incwm).
Pryd byddwn yn clywed a ydym wedi bod yn llwyddiannus?
Hysbysir pob ymgeisydd drwy e-bost o fewn pum niwrnod gwaith i’n cyfarfod panel a gynhelir bob pythefnos.
Mae’r ffurflen gais yn cyfeirio at what3words. Beth yw what3words a pham mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio?
Gwefan ac ap yw what3words sydd wedi rhannu’r byd yn sgwariau tri metr a rhoi cyfuniad unigryw o dri gair i bob sgwâr. Dyma’r ffordd hawsaf o ddod o hyd i leoliadau penodol a’u rhannu. Mae mwy a mwy o gwmnïau danfon yn mynnu defnyddio what3words wrth gynllunio danfoniadau. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod eitemau yn cael eu danfon i’r union leoliad.
Ewch i www.what3words.com i nodi union leoliad eich gardd a’r lleoliad danfon.
Beth yw’r gost?
Dim byd
A fydd angen yswiriant arnom ni?
Bydd. Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y safle. Siaradwch â’r tirfeddiannwr i weld pa lefel yswiriant sydd ei hangen. Efallai fod yswiriant ar waith yn barod.
Os yw swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn bresennol yn ystod gweithgaredd, yna bydd cyfranogwyr wedi’u hyswirio ar gyfer damweiniau personol. Fodd bynnag, nid fydd yr yswiriant hwn ar waith os nad yw’r swyddog yn bresennol, felly bydd angen i chi gael yswiriant digonol ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu costau yswiriant, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Rydym yn aros am ganiatâd y tirfeddiannwr, oes modd i ni ymgeisio?
Nac oes, mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y tirfeddiannwr cyn cyflwyno eich cais. Ni fydd eich cais yn mynd i’r panel hyd nes y bydd wedi’i gwblhau’n llawn, yn cynnwys tystiolaeth o ganiatâd, lluniau, mapiau etc.
Rydym wedi bod yn gweithio ar ein safle ers blynyddoedd o dan gytundeb geiriol gan y tirfeddiannwr. A yw hyn yn ddigonol?
Nac ydy, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y tirfeddiannwr.
Nid yw ein safle yn hygyrch i’r cyhoedd am resymau diogelwch (e.e. gweithio gydag oedolion agored i niwed/plant ysgol) – a allwn ni barhau i wneud cais?
O bosibl, gallwch. Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau penodol ac a ydych yn cyflawni meini prawf eraill y cynllun. Cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru i ofyn am gyngor.
Unigolyn preifat sy’n berchen ar y tir, ond mae gennym brydles 10 mlynedd, allwn ni wneud cais?
O bosibl, gallwch. Anfonwch gopi o’ch prydles drwy e-bost i nature@keepwalestidy.cymru er mwyn iddynt wirio i weld a ydych yn gymwys.
A oes ‘ffurflen’ caniatâd perchennog tir i’w chwblhau?
Nid oes ffurflen swyddogol i’w chwblhau, y cyfan sydd ei angen arnom yw tystiolaeth gan berchennog y tir sy’n dangos caniatâd i osod y safle a’i gynnal a’i gadw am bum mlynedd. Gallai hyn fod yn gytundeb ffurfiol rydych wedi’i lofnodi, trwydded neu e-bost gan berchennog y tir sy’n rhoi caniatâd i waith ddechrau ar y safle arfaethedig. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â’r tîm Natur am gyngor.
Nid wyf yn gwybod beth yw gwerth y safle yn nhermau bywyd gwyllt / natur. A allwch chi helpu?
Peidiwch â phoeni. Dywedwch wrthym beth sy’n bodoli ar y safle ar hyn o bryd e.e. a yw’n arwyneb caled megis concrid neu slabiau palmant, neu a yw’n laswellt?
Mae’r Pecynnau Gardd Fach wedi eu cynllunio ar gyfer mannau bach heb lawer o fynediad at natur os o gwbl, lle nad oes unrhyw gyfle ar gyfer adfywio naturiol. Er enghraifft, ar arwyneb artiffisial (ee iard yr ysgol), mewn gerddi cymunol, o flaen adeiladau cymunedol neu ar gorneli stryd. Nid ydynt yn addas i’w rhoi mewn mannau gwyrdd mawr, neu mewn lleoliadau lle mae bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn ffynnu ee Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, ardaloedd cyfoethog eu rhywogaethau.
Sut ydym ni’n gwybod bod y rhywogaethau planhigion a ddarparwyd yn addas ar gyfer ein hardal?
Mae’r cymysgedd o rywogaethau a ddewisir yn rhai cyffredinol, brodorol i’r DU ac maent yn addas ar gyfer ystod eang o gynefinoedd. Bydd cynrychiolwyr y Bartneriaeth Natur Leol yn mynychu pob cyfarfod o’r panel grantiau i asesu’r ceisiadau.
Faint o le sydd ei angen arnom i osod holl eitemau’r pecyn?
Isafswm yr ardal sydd ei angen ar gyfer Pecynnau Gardd Fach yw pum metr sgwâr.
A yw pob Pecyn Gardd Fach yn addas ar gyfer arwynebau caled?
Ydy.
Nid oes gennym gynllun cynnal a chadw nac unrhyw offer i gynnal y safle yn y dyfodol, oes modd i ni gael pecyn?
Mae cynnal a chadw’r safle yn barhaus yn un o’r meini prawf asesu hanfodol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid yn eich helpu i baratoi cynllun cynnal a chadw a ynglŷn â sut mae gofalu am y safle yn yr hirdymor. Yn anffodus, os nad ydych yn cytuno i gynnal a chadw’r safle am bum mlynedd bydd eich cais yn aflwyddiannus.
Faint o wirfoddolwyr sydd eu hangen arnom i adeiladu a rheoli’r lleoedd natur?
Rydym yn argymell pum gwirfoddolwr craidd o leiaf i adeiladu’r safle er po fwyaf o bobl leol sydd ynghlwm, y gorau. Bydd gwirfoddolwyr ychwanegol yn lledaenu’r llwyth gwaith a gallant ddarparu cefnogaeth foesol drwy ymgymryd â rolau megis lluniaeth, hyrwyddo’r safle drwy’r cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth. Rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i 25 awr yn ystod 2025-26 i osod a rheoli’r ardd.
Os na allwch ddarparu cymorth gwirfoddolwyr, mae’n annhebygol iawn y bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo.
Bydd angen i chi ddarparu llythyrau cefnogaeth gan unrhyw sefydliad a fydd yn cymryd rhan. Mae angen i’r panel deimlo’n hyderus bod gennych grŵp craidd o wirfoddolwyr a fydd yn adeiladu’r ardd a chyfranogiad pendant y gymuned i reoli’r safle yn y tymor hir.
Oes angen i chi fod yn heini? Pa mor gorfforol fydd y gwaith?
Bydd tasgau sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu. Bydd rhai gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau corfforol megis codi, plygu a phalu ond bydd llawer o dasgau mwy ysgafn hefyd megis plannu, chwynnu a dyfrio. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i weithgareddau addas i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.
Oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad arnom?
Nac oes, bydd swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i egluro gweithgareddau’r prosiect yn fanwl a darparu hyfforddiant a chefnogaeth anffurfiol. Byddant yn cynnal asesiad risg ac yn mynd drwy sesiwn friffio iechyd a diogelwch gyda’r holl gyfranogwyr. Bydd dogfennau canllaw a chyfarwyddiadau syml yn cael eu darparu i wirfoddolwyr eu dilyn.
Beth sydd angen i wirfoddolwyr ddod gyda nhw?
Byddwch yn gweithio ar safle’r tu allan, efallai heb ddim lloches ac rydych yn debygol o faeddu. Rydym yn gofyn i wirfoddolwyr wisgo dillad addas ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir ac esgidiau trwm. Gofynnir i wirfoddolwyr ddod â’u menig garddio neu weithio eu hunain. Bydd rhai offer yn cael eu darparu, ond yn dibynnu ar y niferoedd disgwyliedig a math o becyn, gall fod yn syniad da i wirfoddolwyr / grwpiau ddod â rhawiau, tryweli ychwanegol etc.
A all plant gymryd rhan?
Gallant, ond bydd angen i blant dan 16 oed gael eu goruchwylio gan oedolion.
A all y pecynnau gael eu rhannu dros fwy nag un safle?
Na, mae’r Pecynnau Gardd Fach yn fach ac wedi eu cynllunio i fynd ar un safle.
Allwn ni ddiwygio cynnwys y pecyn rwyf wedi’i ddewis?
Na. Mae’r pecynnau wedi’u paratoi ymlaen llaw. Os oes angen eitemau gwahanol arnoch i ddatblygu eich gofod natur lleol, cysylltwch â’ch Partneriaeth Natur Lleol https://lnp.cymru/.
Ym mha ffordd fydd staff Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’n cefnogi i osod y pecynnau?
Bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu eich gardd newydd. Po gyntaf yr ydych yn archebu eich dyddiau gweithgaredd gyda’ch swyddog lleol, po fwyaf tebygol ydych o gael y dyddiadau sydd orau gennych, yn enwedig os ydych eisiau i’r gwaith ddigwydd ar y penwythnos. Byddwn hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer cynnal a chadw’r safle yn y dyfodol.
Oes modd i ni gadw’r offer ar ôl adeiladu’r prosiect?
Oes.
Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cael pecyn, ond yn methu ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2027?
Rhaid cwblhau’r holl waith erbyn yr amser hwnnw. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad oes modd i chi gadw at yr amserlen hon mwyach, RHAID i chi roi gwybod i Cadwch Gymru’n Daclus cyn gynted â phosib er mwyn iddo allu dyrannu’r pecyn i rywun arall.
Os byddwn yn derbyn prosiect, a fydd Cadwch Gymru’n Daclus yn atgyweirio neu’n darparu eitemau newydd os bydd yr offer yn y pecynnau yn gwisgo, torri, yn cael eu difrodi neu eu niweidio maes o law?
Na, bydd y cyllid ond yn cwmpasu’r eitemau a’u gosod unwaith. Dylech weithio gyda’n tîm i ystyried lleoli’r eitemau wrth gynllunio eich gardd e.e. cysgodi strwythurau fel siediau / tai gwydr / delltwaith rhag gwyntoedd cryf os yn bosibl.
Sut bydd fy mhecyn yn cael ei ddosbarthu?
Bydd yn gyfuniad o eitemau mewn bocsys wedi eu dosbarthu gan gludydd ac eitemau mwy fydd yn cael eu dosbarthu ar baledi. Mae’r lluniau isod wedi eu dylunio i roi syniad o faint rhai o’r eitemau fydd yn cael eu dosbarthu.







