Mae polisi amgylcheddol yn aml yn gymhleth ac yn newid yn gyflym, ond mae newid gwirioneddol yn bosibl pan fydd tystiolaeth gref ar gael. Enghraifft ddiweddar yw’r gwaharddiad ar draws y DU ar fêps untro, a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2025.
O arsylwadau lleol i weithredu cenedlaethol
Dechreuodd y broses ddiwedd 2022, pan amlygodd awdurdodau lleol sbwriel fêps fel problem oedd yn dod i’r amlwg. O 2023, roedd gwirfoddolwyr Cadwch Gymru’n Daclus yn cofnodi niferoedd cynyddol o fêps untro trwy eCyfrif Cymru.
Yn ystod y flwyddyn cyn y gwaharddiad, cafodd fêps untro eu cofnodi ar 42.5% o sesiynau codi sbwriel. Darparodd y data hwn, ynghyd â dadansoddiadau pellach gan ein tîm Polisi, dystiolaeth gadarn i gefnogi’r achos dros newid.
Pam gafodd fêps untro eu gwahardd?
Cafodd y gwaharddiad ei ysgogi gan bryderon amgylcheddol sylweddol:
- Batris – Mae fêps yn cynnwys batris lithiwm sydd yn rhyddhau cemegau gwenwynig ac yn cyflwyno perygl o dân pan fyddant yn cael eu niweidio neu eu rhoi mewn cysylltiad â gwres.
- Colli adnoddau – Mae fêps yn cynnwys metelau gwerthfawr sy’n cael eu colli pan fyddant yn cael eu taflu yn hytrach na’u hadfer i gael eu hailddefnyddio.
- Gwastraff plastig – Mae’r rhan fwyaf o fêps untro wedi eu gwneud o blastig, sydd yn tanseilio’r ymdrechion i leihau plastigau untro a symud tuag at economi gylchol.
Roedd graddfa’r broblem yn sylweddol, gyda’n hamcangyfrifon ni yn awgrymu, mewn blwyddyn yng Nghymru, bod 360,000 o fêps untro wedi eu taflu fel sbwriel a 120,000 pellach wedi eu fflysio i lawr toiledau.
Monitro’r effaith
Tri mis ar ôl y gwaharddiad, mae’n rhy gynnar i asesu ei effeithiolrwydd yn llawn, ond, mae data gwirfoddolwyr yn parhau i roi mewnwelediad hanfodol. Rydym eisoes yn gweld heriau newydd yn dod i’r amlwg, yn cynnwys:
- Fêps amldro, sydd yn debyg iawn i gynnyrch untro ond yn cynnwys porth gwefru.
- Podiau ail-lenwi fêps, sydd yn cael eu canfod fwy a mwy fel sbwriel.
I adlewyrchu hyn, rydym wedi diweddaru categorïau eCyfrif Cymru fel bod gwirfoddolwyr bellach yn gallu cofnodi a ydyn nhw wedi canfod:
- Fêps untro neu amldro
- Podiau ail-lenwi fêps
Camau nesaf
Byddwn yn ailasesu tystiolaeth 6 a 12 mis ar ôl y gwaharddiad. Mewn egwyddor, dylai’r cam tuag at fêps amldro a phodiau ail-lenwi leihau’r perygl o dân ac atal adnoddau rhag cael eu colli’n ddiangen. Bydd monitro parhaus yn pennu a yw hyn yn wir.
Mae cyfraniadau gwirfoddolwyr yn parhau’n hanfodol, gyda phob data sy’n cael ei gyflwyno yn cryfhau’r sail dystiolaeth ac yn helpu i ffurfio’r polisi amgycheddol sy’n cadw Cymru’n lân, yn ddiogel ac yn gydnerth.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â leq@keepwalestidy.cymru












