CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Dod yn feirniad!

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm o feirniaid Gwobr y Faner Werdd Cymru.​

Byddwch yn rhan o grŵp o 100 o wirfoddolwyr wedi eu gwasgaru ar draws Cymru, sy’n gyfrifol am gynnal uniondeb y cynllun trwy gynnal cysondeb beirniadu ac eirioli dros fannau gwyrdd o ansawdd uchel i bawb.

Os ydych yn mwynhau ymweld â mannau gwyrdd, eisiau rhannu eich arbenigedd gyda rheolwyr mannau gwyrdd eraill a dysgu oddi wrthynt, ac eisiau bod yn rhan o dîm ymroddedig o wirfoddolwyr sydd yn gweithio i greu a chynnal Cymru hardd, gallai hwn fod yn gyfle perffaith i chi.

Green flag judges stood in the sunshine

Gwybodaeth allweddol

Mae hon yn swydd wirfoddol gyda chostau teithio’n cael eu talu.

Ymrwymiad amser:

  • Blwyddyn 1
    • Cwrs hyfforddi: cymysgedd o sesiynau ar-lein ac mewn person (tua 2 ddiwrnod yn dechrau ym mis Ionawr 2026)
      Beirniadu dau safle yn y flwyddyn gyntaf (4 diwrnod Ebrill-Mai 2026)
  • Parhaus
    • Isafswm o un safle y flwyddyn, dau yn ddelfrydol (2-4 diwrnod y flwyddyn yn ystod Ebrill a Mai)

Crynodeb o’r dyletswyddau

Mae gan Wobr Baner Werdd Cymru ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn annog pawb gyda’r sgiliau cywir i gymryd rhan.

  • Asesu a beirniadu safleoedd neilltuol o fewn cyfnodau amser penodol ​
  • Cysylltu â chyd-feirniaid ac ymgeiswyr
  • Cydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau’r Bartneriaeth bob amser

Sgiliau a phrofiad

Nid oes unrhyw ofynion cymhwyster penodol ar gyfer y swydd hon ond byddai angen profiad perthnasol arnoch naill ai mewn cyflogaeth â thâl neu mewn rhinwedd gwirfoddol, fel y nodir isod:

*meini prawf sy’n cael eu hystyried bwysicaf i’r rôl hon ​​

Sgiliau

*Gallu dangos ystod dda o wybodaeth am y sector parciau a mannau gwyrdd
Profiad o ysgrifennu cynlluniau rheoli parciau neu fannau gwyrdd neu weithio gyda nhw ​
Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar
*Sgiliau dadansoddi rhagorol ​
*Sgiliau rhagorol yn ysgrifennu adroddiadau ​
*Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
*Llythrennedd cyfrifiadurol ​
Dealltwriaeth ragorol o drefnu a gweithredu grŵp ​

Cyfle cyfartal

Gallu dangos ymwybyddiaeth gadarn o faterion cyfle cyfartal

Agwedd ac ysgogiad

Dull proffesiynol cyson ​
Uniondeb a gwrthrychedd
Gallu gweithio o dan bwysau i derfynau amser ​
Gallu cyfiawnhau penderfyniadau

Arall

Yn barod i deithio ​

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen isod i wneud cais.

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13