JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Ymgyrch newid ymddygiad ym Mlaenau Gwent yn gofyn i smygwyr drin bonion mewn ffordd gyfrifol

Rhannu

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi lansio ymgyrch lleol gyda’r nod o newid ymddygiad o ran sbwriel yn ymwneud â smygu. Cynhelir yr ymgyrch ym Mlaenau Gwent a bydd yn cynnig mentrau gwahanol i smygwyr waredu eu gwastraff yn gyfrifol ynghyd ag addysgu’r cyhoedd trwy negeseuon.

Er bod bonion sigaréts yn fach, yn ôl y gyfraith sbwriel ydynt o hyd.  Mae eu maint yn eu gwneud yn anodd ac yn gostus i’w tacluso, a chânt eu cludo’n hawdd mewn dyfrffyrdd a’r arfordir trwy wynt a dŵr.

Bydd biniau smygu newydd yn cael eu gosod yn y lleoliadau canlynol: Glynebwy, Abertyleri a Thredegar a byddant yn amrywio o ‘finiau micro’, biniau bach ynghlwm wrth bolion lampau i finiau fel biniau pleidleisio fydd yn annog y cyhoedd i ymgysylltu.  Bydd busnesau lleol hefyd yn helpu i hyrwyddo’r ymgyrch trwy ddarparu blychau llwch poced neu gludadwy. Trwy gydol yr ymgyrch, defnyddir negeseuon gwahanol i helpu i addysgu smygwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol am effeithiau sbwriel yn ymwneud â smygu.

Bydd monitro lefel sbwriel yn ymwneud â smygu, ynghyd ag arolygu amgyffrediad yn y tri lleoliad, yn helpu i nodi effaith yr ymgyrch, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o sbwriel yn ymwneud â smygu.

Rydym eisiau chwalu’r mythau a’r camdybiaethau yn ymwneud â gwaredu bonion sigaréts. Er gwaethaf eu maint, mae bonion sigaréts yn dal yn cyfrif fel sbwriel! Rydym eisiau i bawb ddeall nad blychau llwch yw ein palmentydd a’n draeniau a edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau ym Mlaenau Gwent.

Jemma Bere Rheolwr Polisi ac Ymchwil yn Cadwch Gymru’n Daclus

I ganfod mwy am yr ymgyrch, dilynwch yr hashnod #BonionTaclus neu #TidyButts ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13