JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eraill

Canolfan Parc Cenedlaethol Bluestone yn cael gwobr amgylcheddol ryngwladol

Rhannu

Mae Canolfan Parc Cenedlaethol Bluestone yn Sir Benfro wedi cael gwobr ryngwladol Goriad Gwyrdd i gydnabod ei safonau amgylcheddol rhagorol.

Gyda gwobrau wedi eu dyfarnu i sefydliadau mewn 65 o wledydd, Goriad Gwyrdd yw’r eco-label sydd yn tyfu gyflymaf i’r diwydiant twristiaeth. Yng Nghymru, gweithredir Goriad Gwyrdd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, sydd hefyd yn rheoli rhaglen eiconig y Faner Las. Mae Bluestone wedi ymuno â grŵp craidd o arweinwyr y diwydiant lletygarwch yng Nghymru sydd wedi cael achrediad Goriad Gwyrdd, gyda’r wobr yn amlwg yn dangos eu hymrwymiad parhaus i’r safonau amgylcheddol uchel sydd yn cael eu gweithredu ar draws eu busnes.

 

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael gwobr eco flaenllaw Goriad Gwyrdd. Mae ein tîm wedi gweithio’n galed i gyflawni hyn ac felly rydym mor falch o gael yr achrediad.

Yn Bluestone, rydym yn cymryd cynaliadwyedd – a diogelu a chefnogi ein hamgylcheddol – o ddifrif. Dyfodol Rhydd i Grwydro yw ein mudiad cynaliadwyedd. Rydym yn diolch i Goriad Gwyrdd, ein gwesteion a’n timau am eu hymdrechion rhagorol a’u cefnogaeth gwych wrth i ni gyd weithio tuag at Ddyfodol mwy cynaliadwy a Rhydd i Grwydro.

Marten Lewis Pennaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol yng Nghanolfan Parc Cenedlaethol Bluestone

Mae Bluestone wedi ymrwymo i gynaliadwyedd ers i’r ganolfan agor gyntaf yn 2008, ond gwnaeth welliannau neilltuol ar daws y safle dros y flwyddyn ddiwethaf i fodloni safonau Goriad Gwyrdd. Mae’r rhain wedi cynnwys rhaglen ymgysylltu staff, haneru’r gwastraff cyffredinol sydd yn cael ei gynhyrchu a defnyddio cyfleuster treulio anaerobig i droi’r holl wastraff bwyd yn fiodanwydd a gwrtaith.  Mae Bluestone hefyd yn buddsoddi mewn isadeiledd newydd i fwy na haneru’r defnydd o ddŵr o gawodydd a thapiau.

 

Mae’n rhagorol gweld un o brif ganolfannau gwyliau Cymru yn gweithredu i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd. Hoffem longyfarch tîm Bluestone ar eu llwyddiant a’u croesawu i deulu Goriad Gwyrdd.

Ar ôl cyfnod anodd i’r diwydiant twristiaeth, mae Goriad Gwyrdd yn gyfle i roi Cymru ar y map fel cyrchfan cynaliadwy yn yr 21ain ganrif. Trwy ddewis ymweld â sefydliad Goriad Gwyrdd, gallwn eich sicrhau eich bod yn ymweld â rhywle sydd â’r safonau amgylcheddol uchaf posibl.

Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Rhagor o wybodaeth am ‘Goriad Gwyrdd

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13