CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
GwirfoddoliMannau gwyrddSbwriel a gwastraff

Diolch arbennig gan ein Prif Swyddog Gweithredol

Rhannu

Dathlu ein gwirfoddolwyr anhygoel

Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr yw Diwrnod Gwirfoddolwyr Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig – adeg fyd-eang i ddiolch i’r gwirfoddolwyr ac i arddangos eu hymdrechion. Ac, wrth i ni ddod i ddiwedd blwyddyn anodd, mae thema ddewisol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2020, #Gyda’nGilyddGallwn yn sicr yn berthnasol.

Ymysg yr holl ansicrwydd, ofn a rhwystredigaeth, cafwyd llygedyn o obaith a phositifrwydd yn ystod y pandemig. I mi, un elfen gadarnhaol oedd y teimlad cryf o gadernid ac ‘undod’.  Nid yw’n syndod bod gwirfoddolwyr wedi bod wrth wraidd yr ymateb cadarnhaol hwn yng Nghymru.

Ar draws y wlad, mae gwirfoddolwyr newydd a phresennol wedi camu i’r adwy i ofalu am eu cymdogion a’u cymunedau, gan ddangos ymrwymiad, trugaredd a chadernid anhygoel.

Effaith ein gwirfoddolwyr

Trwy gydol y pandemig, mae Gwirfoddolwyr Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i godi sbwriel yn eu hardaloedd lleol, gan helpu i gadw mannau awyr agored yn lân ac yn ddiogel i ni gyd eu mwynhau.

Mae’r niferoedd yn siarad drostynt eu hunain.

Ers mis Mawrth, mae ein Harwyr Sbwriel, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr â’r hyb wedi cysegru dros 14,000 o oriau i ofalu ar ôl ein hamgylchedd. Gyda’i gilydd, maent wedi casglu 17,000 o fagiau o sbwriel ac ailgylchu.

Cawsom hefyd ein calonogi gan y gefnogaeth a dderbyniodd Hydref Glân Cymru. Er ei fod yn wahanol iawn i’n hymgyrchoedd arferol, cymerodd dros 1,100 o wirfoddolwyr ran mewn bron 200 o ymgyrchoedd glanhau gan gadw pellter cymdeithasol. Rydym yn llawn cyffro o wybod bod llawer o’r arwyr sbwriel a ymunodd yn gwirfoddoli gyda ni am y tro cyntaf erioed.

Diolch - thank you

Ar ran pawb yn Cadwch Gymru’n Daclus, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n gwirfoddolwyr – o newydd-ddyfodiaid glanhau i Arwyr Sbwriel cyfarwydd. Rydych i gyd wedi mynd y tu hwnt i’r gofynion eleni ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.

Ymlaen i 2021, oherwydd #Gyda’nGilyddGallwn

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13