Rydym yn plannu 22 o goedwigoedd ysgol fel rhan o uchelgais Coedwig Genedlaethol Cymru.
Mae 400 o goed cynhenid yn cael eu plannu ar safle pob Eco-Ysgol, gan greu coedwrych, perthlys neu goetir bach ym mhob awdurdod lleol. Er nad yw wedi bod yn bosibl cynnwys disgyblion yn y gwaith plannu, pan fydd y cyfyngiadau yn caniatáu, bydd ganddynt gyfle i dorchi llewys a gofalu ar ôl y coed wrth iddynt dyfu a ffynnu.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynorthwyo Cadwch Gymru’n Daclus gyda’u gwaith plannu mewn prosiectau Eco-Sgolion ar draws Cymru, trwy ein cynlluniau ar gyfer y Goedwig Genedlaethol. Wrth i ni geisio gwneud Cymru yn genedl wyrddach a thecach, gan barhau â’n nod o fod yn genedl carbon sero-net erbyn 2050, mae’n hanfodol bod plant yn cael y cyfle i ddysgu am bwysigrwydd coed a choetir, a’u heffaith fuddiol hollbwysig ar ein hamgylchedd. Er bod y cyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19 wedi golygu nad yw disgyblion wedi gallu cymryd rhan yn y gwaith plannu, rwy’n siŵr y byddant yn manteisio ar bob cyfle i ofalu ar ôl eu coetir newydd, a hoffwn ddiolch i Cadwch Gymru’n Daclus am eu gwaith yn plannu’r coed a’r coedwrych hyn.
Lesley Griffiths Y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae pecyn i athrawon wedi cael ei greu fel rhan o’r prosiect, yn llawn gweithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth ac ar gyfer dysgu gartref, wedi eu dylunio i helpu pobl ifanc i ddeall gwerth coed (gweler isod). Mae’r adnoddau ar gael i bob ysgol yn rhad ac am ddim ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Rydym yn falch o gefnogi datblygiad Coedwig Genedlaethol Cymru gyda’r prosiect Eco-Sgolion cyffrous hwn. Rydym eisiau sicrhau bod pobl ifanc yn cydnabod pa mor wych yw coed a pha mor hanfodol ydynt i’n hamgylchedd. Trwy gynnwys myfyrwyr wrth ofalu am y coedwigoedd newydd hyn a darparu adnoddau yn rhad ac am ddim i bob ysgol, ein gobaith yw creu cenhedlaeth o ‘warcheidwaid coed’ sydd wedi ymrwymo i ofalu am goed a mannau gwyrdd a’u diogelu.
Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’r 22 o goedwigoedd newydd wedi eu lleoli yn / gerllaw yr ysgolion canlynol:
- Ysgol Gymuned Bryngwran, Ynys Môn
- Ysgol Gynradd Sofrydd, Blaenau Gwent
- Coleg Cymunedol Y Dderwen / Ysgol Gynradd Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Lewis i Ferched, Caerffili
- Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog, Caerdydd
- Ysgol Gyfyn Emlyn, Sir Gaerfyrddin
- Ysgol Bro Pedr, Ceredigion
- Ysgol Swn Y Don, Conwy
- Ysgol Gatholig Crist y Gair, Sir Ddinbych
- Ysgol Maes y Felin, Sir y Fflint
- Ysgol Glan Y Mor, Gwynedd
- Ysgol Gynradd Gymunedol Coed-y-dderwen, Merthyr Tudful
- Ysgol Gynradd Rogiet, Sir Fynwy
- Ysgol Bae Baglan, Castell-nedd Port Talbot
- Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Casnewydd
- Ysgol Bro Gwaun, Sir Benfro
- Ysgol Calon Cymru, Powys
- Ysgol Gynradd Meisgyn, Rhondda Cynon Taf
- Ysgol Bishop Vaughn, Abertawe
- Ysgol Gynradd Pontnewydd, Torfaen
- Ysgol Gynradd Colcot, Bro Morgannwg
- Ysgol Rhosnesni, Wrecsam












