Ffyrdd o wirfoddoli gyda ni
P’un ai bod gennych ddiwrnod neu ddau neu ychydig funudau i’w sbario, mae sawl ffordd i gymryd rhan, cwrdd â phobl newydd, a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned. O drefnu digwyddiad glanhau untro i ddechrau grŵp cymunedol, mae rhywbeth i bawb.
Hybiau Codi Sbwriel
Ewch i'ch Hyb Codi Sbwriel lleol i fenthyg yr holl offer sydd ei angen arnoch i gynnal glanhau diogel yn eich ardal leol.
Darganfod
Grwpiau Cymunedol
Ymuno â’ch grŵp lleol. Edrychwch ar y map a chysylltwch i ganfod sut i gymryd rhan!
Darganfod
Sefydlu grŵp cymunedol newydd
Os ydych chi a’ch ffrindiau neu gymdogion eisiau ymgymryd â digwyddiadau glanhau rheolaidd neu ofalu am ofod gwyrdd gyda’ch gilydd, gallwn ni eich helpu i ddod yn grŵp cymunedol ffurfiol.
Darganfod
Arwyr Sbwriel
O un flwyddyn i’r llall, mae Arwyr Sbwriel yn camu i’r adwy, yn gweithredu ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Darganfod
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Pecynnau gardd am ddim i ysgolion a chymunedau i greu mannau gwyrdd lleol, gan ddod â phlanhigion, bywyd gwyllt a chymuned at ei gilydd.
Darganfod
Yr effaith
Gall grym gwirfoddoli gael ei danbrisio.
Mae ffigurau’r llynedd yn dangos ymdrechion anhygoel unigolion, grwpiau a sefydliadau angerddol sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu a gwella’r lleoedd sydd yn bwysig i ni.
Eisiau gweld yr effaith yn lleol i chi? Ewch i’n Map Effaith Gymunedol i weld gweithgareddau a chyflawniadau amser real ledled Cymru.
16502
gweithgareddau a wnaed gan wirfoddolwyr
53144
cyfranogwyr yn cymryd rhan yn gofalu am ein hamgylchedd
66595
bagiau o sbwriel ac ailgylchu’n cael eu codi o’n strydoedd, parciau, traethau a mannau hardd
93838
oriau gwirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i helpu’r amgylchedd
Gwneud cyfraniad
Os hoffech wneud cyfraniad ariannol i Cadwch Gymru’n Daclus, gallwch wneud hynny yma.
Mae pob cyfraniad, boed yn fawr neu’n fach, yn ein helpu i gyflawni prosiectau amgylcheddol ymarferol a chreu mannau awyr agored iachach a hapusach ar eich stepen drws.
Rhoi







