JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Olion pawennau ar finiau yn ymddangos ar draws Cymru i frwydro yn erbyn baw cŵn

Rhannu

Ymgyrch baw cŵn Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi olion pawennau pinc llachar gerllaw biniau ar draws y wlad.

Mae ymgyrch ‘gadewch olion pawennau yn unig’ yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad i ‘ysgogi’ pobl i wneud y peth iawn a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.

Olion pawennau pinc llachar yn arwain at finiau yw’r cam nesaf wrth ysgogi pobl i waredu eu baw cŵn yn gyfrifol. Mae’n un o ymyriadau niferus Cadwch Gymru’n Daclus i frwydro yn erbyn baw cŵn ar draws Cymru, ynghyd ag arwyddion pinc llachar, posteri a sticeri biniau.

Er yr amcangyfrifir bod naw allan o ddeg o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw cŵn yn dal yn broblem barhaus mewn cymunedau ar draws y wlad. Gall baw cŵn beryglu iechyd pobl a nifer o anifeiliaid eraill hefyd.

Er mwyn hyrwyddo perchnogaeth cŵn cadarnhaol a chyfrifol i’r nifer fach o berchnogion cŵn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae olion pawennau pinc llachar yn cael eu paentio ar draws Cymru i arwain pobl yn hawdd i’r bin agosaf.

Ynghyd â’r olion pawennau trawiadol hyn, ceir sticeri biniau ac arwyddion i’w wneud mor hawdd â phosibl i bobl ddod o hyd i fin baw cŵn a gwneud y peth iawn.

Jemma Bere Dywedodd rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus

Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau cymryd rhan yn yr ymgyrch gwerth chweil hwn gyda swyddog prosiect lleol Cadwch Gymru’n Daclus. Roedd yn rhagorol iddynt ddysgu am effaith baw cŵn a sut i waredu baw ci yn iawn.

Bydd yr olion pawennau pinc llachar yn ei wneud yn haws i gerddwyr cŵn ddod o hyd i’r bin agosaf a gwaredu baw eu ci yn gyfrifol. Rydym wrth ein bodd yn helpu i gadw ein cymuned leol yn lân ac yn rhydd rhag sbwriel – os ydych yn cerdded eich ci o amgylch Pwll Brickfields, bagiwch a biniwch eich baw ci.

Mrs F Hoare Ysgol Tir Morfa
Myfyrwyr yn Ysgol Tir Morfa yn chwistrellu olion pawennau a #BagiwchBiniwch ym Mhwll Brickfields yn Sir Ddinbych
Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13