JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Hyb codi sbwriel cymunedol newydd wedi ei sefydlu yn Nhorfaen

Rhannu

Torfaen Ddiwastraff yn ymuno â nifer gynyddol o hybiau codi sbwriel sydd yn agor ar draws Cymru.

Mae hyb codi sbwriel newydd wedi agor yn Nhorfaen Ddiwastraff yng Nghwmbrân sydd yn galluogi’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau i gael benthyg cyfarpar codi sbwriel i lanhau eu hardal leol.

Mae Torfaen Ddiwastraff yn cynnig yr holl gyfarpar sydd ei angen ar bobl leol i gynnal sesiynau glanhau yn ddiogel a chadw eu cymuned yn edrych yn hardd. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, sachau sbwriel a chylchynnau.

Mae’r hybiau codi sbwriel wedi cael eu sefydlu gan Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o fenter Caru Cymru. Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol wedi ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdodau lleol i ddileu sbwriel a gwastraff.

Rydym wrth ein bodd yn sefydlu hyb codi sbwriel! Dechreuodd Torfaen Ddiwastraff fel gorsaf ail-lenwi ecogyfeillgar o sied ar waelod fy ngardd ac mae wedi ehangu i fod yn siop ddiwastraff lawn.

Rydym yn ceisio gwneud gwahaniaeth yn Nhorfaen trwy leihau faint o wastraff untro sydd yn y sir. Mae llawer o bobl yn cydweithio i wneud newidiadau bach yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth enfawr.

Os hoffech wneud gwahaniaeth i’ch cymuned, galwch heibio am fwyd ecogyfeillgar, adlenwadau cartref ac i logi cyfarpar codi sbwriel.

Dywedodd Lauren Morse, Sylfaenydd Torfaen Ddiwastraff

Mae Caru Cymru wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I ganfod mwy am hybiau codi sbwriel ar draws Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

I ganfod mwy am Torfaen Ddiwastraff, ewch i’w gwefan.

Zero Waste Torfaen joins the growing number of litter picking hubs opening across Wales.
Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13