JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Caru Cymru’n Lansio Ymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel yn Targedu Busnesau ar Draws Cymru

Rhannu

Fel rhan o fenter Caru Cymru, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn lansio ymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel ym mis Ionawr, wedi ei ddylunio i annog busnesau i gadw eu cymunedau’n ddi-sbwriel ac i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd.

Ariannwyd y fenter gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r ymgyrch yn estyn allan i fusnesau ar draws Cymru i fabwysiadu ardal leol a helpu i’w chadw’n lân trwy ddigwyddiadau Codi Sbwriel rheolaidd.  Gofynnir i fusnesau gofrestru eu diddordeb ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.  Y gobaith yw y bydd busnesau o bob math a maint yn cymryd rhan, o siopau pentref i swyddfeydd preifat, archfarchnadoedd ac ystadau diwydiannol.

Gall busnesau naill ai ddefnyddio Hyb Codi Sbwriel agosaf Cadwch Gymru’n Daclus i gael benthyg offer neu brynu eu cyfarpar eu hunain am bris gostyngol gan Helping Hand Environmental sy’n cefnogi’r cynllun.

Mae Helping Hand Environmental yn falch o fod yn bartner hirsefydlog ac yn gyflenwr cyfarpar swyddogol i Cadwch Gymru’n Daclus. Mae’n ysbrydoliaeth gweld angerdd ac ymrwymiad y sefydliad yma sydd, trwy eu prosiectau parhaus gyda phob aelod o’r gymuned, yn ymdrechu’n barhaus i ddiogelu a gwella’r amgylchedd.

Dywedodd Stacey Lovering, Rheolwr Gwerthiannau Ardal yn Helping Hand

Fel rhan o’r addewid i ymuno, gofynnir i bob busnes sydd yn cymryd rhan adrodd yn rheolaidd ynghylch math a maint y sbwriel sydd yn cael ei gasglu gan ddefnyddio system Epicollect.  Y nod yn y pen draw yw cymuned lanach, harddach, gyda theimlad cryf o falchder bro.

Rydym yn mawr obeithio y bydd busnesau ar hyd a lled Cymru yn ymuno ac yn cefnogi’r achos haeddiannol hwn. Mae ein hymgyrch Ardaloedd Di-sbwriel yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i gyflogwyr ymgysylltu ac annog eu staff i wirfoddoli ychydig oriau y mis. Mae dod yn rhan o’r ymgyrch yn ffordd ddelfrydol o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned, gan helpu i ddiogelu ein hamgylchedd a’i warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn siarad am yr ymgyrch, dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Gall unrhyw fusnes sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ymgyrch fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus a chofrestru eu diddordeb neu lawrlwytho pecyn cymorth Ardaloedd Di-sbwriel sydd yn rhoi gwybodaeth lawn ynghylch sut i ymuno.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13