JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Ymunwch a ni i bigo i’r copa ar y Wyddfa Gwanwyn Glân Cymru yma

Rhannu

Fel mynydd uchaf yng Nghymru, mae’r Wyddfa yn denu llawer o dwristiaid drwy gydol misoedd y Gwanwyn a’r Haf. Gyda hyn, daw cynnydd mawr mewn sbwriel a gwastraff yn ystod y cyfnod poblogaidd hwn.

Dewch i’n helpu ni i fynd i’r afael â glanhau yr Wyddfa ar Ebrill 3. Rydym wedi partner ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i daclo y copa ac i adael ein golygfeydd yn lân y Gwanwyn hwn.

Bydd yr holl offer yn cael eu darparu ar eich cyfer. Y cyfan sydd angen i chi ddod gyda chi yw esgidiau call, dillad cynnes, menig a gwên fawr.

“Er y bydd cynllun gwirfoddoli Caru Eryri yn dychwelyd yn fuan, mae ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru yn gyfle gwych i fynd allan i’r mynyddoedd i lanhau unrhyw sbwriel cyn i’r tymor prysur ddechrau, gan fod sbwriel yn denu sbwriel! Mae’n bleser gennym gymryd rhan yn yr ymgyrch a chefnogi gwaith anhygoel Cadwch Gymru’n Daclus. Diolch o galon i bawb sydd yn helpu i ddiogelu Yr Wyddfa, gan gadw’r amgylchedd yn ddiogel ac yn eithriadol i bawb ei fwynhau. Cofiwch, mae’n rhaid i’r hyn sy’n mynd i fyny ddod i lawr”.

Etta Trumper Swyddog Llesiant a Gwirfoddoli Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Mae’r niferoedd yn gyfyngedig felly cofiwch gofrestru trwy wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13