JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Dathlwch eich llwyddiant

Rhannu eich llwyddiannau yw un o’r ffyrdd gorau o dyfu eich grŵp cymunedol!

Ni ellir amcangyfrif grym cyhoeddusrwydd yn rhy isel. Mae’n bwysig i forâl eich grŵp, nid ydych byth yn gwybod pwy allai fod yn gwrando, yn darllen, yn gwylio. Gallai hyn fod yn wirfoddolwyr, noddwyr, codwyr arian neu wneuthurwyr polisi posibl, mae’r rhestr yn hirfaith!

Mae llawer o sianeli cyfathrebu i ddewis ohonynt ac mae tueddiadau newydd yn dod i’r amlwg bob amser. Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon mor ddiweddar â phosibl gydag awgrymiadau a syniadau, felly cadwch lygad.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi, mae ein Tîm Marchnata a Chyfathrebu yma i helpu.

Cysylltu

Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi ddechrau hyrwyddo eich grŵp, cymerwch eiliad i feddwl am rai cwestiynau allweddol.

Dylai cyfansoddiad eich grŵp amlinellu eich nodau a’ch amcanion. Gall y rhain helpu i arwain eich negeseuon a sicrhau bod eich cyhoeddusrwydd yn adlewyrchu pwrpas eich grŵp.

Meddyliwch am y bobl rydych chi eisiau cysylltu â nhw. Ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr, cefnogwyr lleol, partneriaid neu noddwyr?

Bydd gwybod pwy yw eich cynulleidfa yn eich helpu chi i ddewis y sianeli cyfathrebu cywir a’r math o gynnwys i’w rannu.

Gall dylunio, argraffu a hysbysebu weithiau gynnwys costau. Ond, mae llawer o offer hyrwyddo effeithiol yn rhad ac am ddim. Gall llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau cymunedol a chyfeiriaduron ar-lein eich helpu chi i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr heb wario arian.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth o fath arall. Er enghrhaifft, gallai rhywun yn eich cymuned fod â sgiliau dylunio graffeg, marchnata, ffotograffiaeth neu gyfathrebu ac yn fodlon gwirfoddoli eu hamser.

Rhowch eich grŵp ar y map

Os ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr neu gefnogwyr newydd, lle da i ddechrau yw sicrhau bod eich grŵp wedi ei restru ar eich Map Grwpiau Cymunedol.

Mae’r map hwn yn dod â grwpiau cymunedol ar draws y wlad ynghyd, gan helpu pobl i ddarganfod prosiectau lleol a dod o hyd i gyfleoedd i gymryd rhan.

Darganfod mwy

Gwnewch y gorau o’r cyfryngau cymdeithasol

Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd bwerus o rannu eich gwaith, dathlu gwirfoddolwyr a chysylltu â’ch cymuned. Ond, oeddech chi fod degau o filoedd o negeseuon y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hanfon bob eiliad? Gall hyn ei gwneud hi’n anodd sefyll allan. Dyma rai awgrymiadau i sicrhau bod pobl yn aros ac yn clicio ar eich negeseuon.

Postiwch yn rheolaidd i ddangos bod eich grŵp yn weithredol – po fwyaf gweithredol yw eich cyfrif, y mwyaf tebygol y bydd pobl o weld eich cynnwys.

Defnyddiwch luniau a fideos byr i ddod â’ch gwaith yn fyw – postio pethau sydd yn cynnwys pobl sy’n perfformio orau yn aml, felly ceisiwch gynnwys gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned pan fo hynny’n bosibl.

Lluniau cyn ac ar ôl eich prosiectau neu ddigwyddiadau glanhau – mae’n wych i eraill weld yr effaith gadarnhaol yr ydych yn ei chael yn eich cymuned.

Cyfweliadau byr gyda gwirfoddolwyr – gofynnwch iddyn nhw beth wnaeth iddyn nhw wirfoddoli, a beth maen nhw’n ei fwynhau fwyaf amdano.

Fideos dros amser o weithgareddau – mae’r rhain yn bethau gweledol da i’w postio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Adegau y tu ôl i’r llenni o’ch digwyddiadau – peidiwch anghofio cynnwys y baned rydych chi gyd yn ei mwynhau ar ôl hynny.

Dathlwch eich gwirfoddolwyr a chydnabod eu cyfraniadau – gall hyn fod mor syml â rhannu post yn dweud diolch neu’n amlygu stori gwirfoddolwr.

Hyrwyddwch ddigwyddiadau’n gynnar a rhannu negeseuon atgoffa yn agosach at y dyddiad – mae pobl yn brysur, felly gall negeseuon atgoffa cyfeillgar helpu i hybu presenoldeb.

Ymgysylltwch â’ch cynulleidfa trwy ateb sylwadau a negeseuon – mae ymateb i bobl yn dangos bod eich grŵp yn weithredol ac yn groesawgar. Gall hefyd helpu eich post i gyrraedd mwy o bobl, gan fod llwyfannau’r cyfryngau cymddeithasol yn aml yn rhoi blaenoriaeth i gyfrifon sy’n rhyngweithio â’u cynulleidfaoedd.

Llwyfannau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd

Y peth allweddol yw dewis llwyfannau sy’n gweithio i’ch grŵp chi a gwneud amser i’w rheoli. Dyma ganllaw cyflym i rai llwyfannau poblogaidd a ddefnyddir gan grwpiau cymunedol.

Facebook yw un o’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir fwyaf o hyd, Mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer rhannu diweddariadau, adrodd hanes eich prosiectau a’ch digwyddiadau hyrwyddo.

Mae grwpiau a thudalennau cymunedol lleol hefyd yn fannau gwych i gyrraedd pobl yn eich ardal chi a rhoi’r gair ar led am yr hyn rydych yn ei wneud.

 

Mae Instagram yn canolbwyntio ar luniau a fideos byr. Mae’n llwyfan gwych ar gyfer dangos effaith eich gwaith yn weledol.

Gallech rannu:

  • Lluniau cyn ac ar ôl eich prosiectau neu ddigwyddiadau glanhau – mae’n wych i eraill weld yr effaith gadarnhaol yr ydych yn ei chael yn eich cymuned.
  • Cyfweliadau byr gyda gwirfoddolwyr – gofynnwch iddyn nhw beth wnaeth iddyn nhw wirfoddoli, a beth maen nhw’n ei fwynhau fwyaf amdano.
  • Fideos dros amser o weithgareddau – mae’r rhain yn bethau gweledol da i’w postio ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Adegau y tu ôl i’r llenni o’ch digwyddiadau – peidiwch anghofio cynnwys y baned rydych chi gyd yn ei mwynhau ar ôl hynny.

Mae Bluesky yn llwyfan sy’n tyfu ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn canolbwyntio ar sgyrsiau agored a chymunedau. Mae’n cael ei ddefnyddio mwy a mwy gan newyddiadurwyr, ymgyrchwyr a sefydliadau i rannu diweddariadau a thrafod materion cyfredol.

Os yw eich grŵp yn gysylltiedig ag ymgyrchu, codi ymwybyddiaeth neu ymgysylltu â sgyrsiau cyhoeddus, gall Bluesky fod yn lle defnyddiol i gysylltu â chynulleidfaoedd ehangach.

Peidiwch â bod ofn rhannu eich cyflawniadau. Mae dathlu eich gwaith yn ein helpu ni i ysbrydoli eraill ac mae’n dangos y gwahaniaeth y gall gweithredu cymunedol ei wneud!

Tîm Marchnata a Chyfathrebu Cadwch Gymru'n Daclus

Estyn allan i’r cyfryngau lleol

Gall ymddangos yn amlwg, ond mae’r cyfryngau lleol (papurau newydd, gwefannau a sianeli darlledu) eisiau straeon lleol da, neu ongl leol ar stori genedlaethol, yn arbennig un gyda diddordeb dynol.

Mae datganiad i’r wasg sydd wedi ei ysgrifennu’n dda yn ffordd gyflym a chost effeithiol o godi ymwybyddiaeth a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae’r tîm rhagorol yn yr asiantaeth CC yng Nghaerdydd, Working Word, wedi rhoi canllaw byr at ei gilydd ar sut i ysgrifennu datganiadau i’r wasg effeithiol.

> Lawrlwytho’r canllaw

Bydd y rhan fwyaf o bapurau newydd lleol yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer newyddiadurwyr ar eu gwefannau neu dudalennau Facebook. Gallwch hefyd gyflwyno straeon yn uniongyrchol ar lawer o safleoedd newyddion ar-lein, fel In Your Area.

Keep Wales Tidy officer working with vollunteers at a Local Places for Nature site with a rainbow recycled garden table

Gofynnwch i eraill roi’r gair ar led

Mae’r gair llafar yn dal yn offeryn hynod bwerus – yn arbennig wrth ddenu gwirfoddolwyr newydd. Peidiwch â bod ofn gofyn i’ch gwirfoddolwyr presennol, cefnogwyr, ffrindiau a theulu i’ch helpu i roi’r gair ar led. Gallai hyn fod yn alwad rheolaidd i weithredu ar ddiwedd eich digwyddiadau?

Ysbrydoliaeth cyhoeddusrwydd

Cliciwch y blychau i ddarllen am ymdrechion cyhoeddusrwydd Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion ac Forward 4 Fairyland, lle cewch awgrymiadau gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau cymunedol lleol.

Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion

Darllen rhagor
Two volunteers, one male and one female smiling holding litter picks, wearing yellow hi-vis vests

Forward 4 Fairyland

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13