JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!
Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.
Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.
Darganfod mwy
Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.
Rhagor o wybodaeth
Mae cyhoeddusrwydd cadarnhaol nid yn unig yn rhoi hwb i forâl eich gwirfoddolwyr, ond gall hefyd eich helpu chi i ddenu cefnogwyr, partneriaid a chyllid angenrheidiol.
Pwy a ŵyr pwy fydd yn gweld eich stori, gwirfoddolwyr, noddwyr, cyllidwyr neu hyd yn oed gwneuthurwyr penderfyniadau posibl.
Mae mwy o ffyrdd nag erioed o rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud.
Mae tueddiadau cyfathrebu bob amser yn esblygu, felly byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon gyda’r awgrymiadau a’r syniadau diweddaraf i’ch helpu chi i hyrwyddo eich gwaith.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi, mae ein Tîm Marchnata a Chyfathrebu yma i helpu.
Cyn i chi ddechrau
Cyn i chi ddechrau hyrwyddo eich grŵp, cymerwch eiliad i feddwl am rai cwestiynau allweddol.
• Beth ydych chi’n ceisio ei gyflawni?
Dylai cyfansoddiad eich grŵp amlinellu eich nodau a’ch amcanion. Gall y rhain helpu i arwain eich negeseuon a sicrhau bod eich cyhoeddusrwydd yn adlewyrchu pwrpas eich grŵp.
• Pwy ydych chi’n ceisio ei gyrraedd?
Meddyliwch am y bobl rydych chi eisiau cysylltu â nhw. Ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr, cefnogwyr lleol, partneriaid neu noddwyr?
Bydd gwybod pwy yw eich cynulleidfa yn eich helpu chi i ddewis y sianeli cyfathrebu cywir a’r math o gynnwys i’w rannu.
• Beth yw eich cyllideb?
Gall dylunio, argraffu a hysbysebu weithiau gynnwys costau. Ond, mae llawer o offer hyrwyddo effeithiol yn rhad ac am ddim. Gall llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau cymunedol a chyfeiriaduron ar-lein eich helpu chi i gyrraedd cynulleidfaoedd mawr heb wario arian.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth o fath arall. Er enghrhaifft, gallai rhywun yn eich cymuned fod â sgiliau dylunio graffeg, marchnata, ffotograffiaeth neu gyfathrebu ac yn fodlon gwirfoddoli eu hamser.
Rhowch eich grŵp ar y map
Os ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr neu gefnogwyr newydd, lle da i ddechrau yw sicrhau bod eich grŵp wedi ei restru ar eich Map Grwpiau Cymunedol.
Mae’r map hwn yn dod â grwpiau cymunedol ar draws y wlad ynghyd, gan helpu pobl i ddarganfod prosiectau lleol a dod o hyd i gyfleoedd i gymryd rhan.
Gwnewch y gorau o’r cyfryngau cymdeithasol
Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd bwerus o rannu eich gwaith, dathlu gwirfoddolwyr a chysylltu â’ch cymuned. Y peth allweddol yw dewis llwyfannau sy’n gweithio i’ch grŵp chi a gwneud amser i’w rheoli.
Ceisiwch gadw gwybodaeth eich proffil wedi ei diweddaru, ymateb i sylwadau a negeseuon, a phostio’n rheolaidd er mwyn i bobl allu gweld beth mae eich grŵp yn ei wneud.
Dyma ganllaw cyflym i rai llwyfannau poblogaidd a ddefnyddir gan grwpiau cymunedol.
Facebook
Facebook yw un o’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir fwyaf o hyd, Mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer rhannu diweddariadau, adrodd hanes eich prosiectau a’ch digwyddiadau hyrwyddo.
Mae grwpiau a thudalennau cymunedol lleol hefyd yn fannau gwych i gyrraedd pobl yn eich ardal chi a rhoi’r gair ar led am yr hyn rydych yn ei wneud.
Instagram
Mae Instagram yn canolbwyntio ar luniau a fideos byr. Mae’n llwyfan gwych ar gyfer dangos effaith eich gwaith yn weledol.
Gallech rannu:
• Lluniau cyn ac ar ôl eich prosiectau neu ddigwyddiadau glanhau – mae’n wych i eraill weld yr effaith gadarnhaol yr ydych yn ei chael yn eich cymuned.
• Cyfweliadau byr gyda gwirfoddolwyr – gofynnwch iddyn nhw beth wnaeth iddyn nhw wirfoddoli, a beth maen nhw’n ei fwynhau fwyaf amdano.
• Fideos dros amser o weithgareddau – mae’r rhain yn bethau gweledol da i’w postio ar y cyfryngau cymdeithasol.
• Adegau y tu ôl i’r llenni o’ch digwyddiadau – peidiwch anghofio cynnwys y baned rydych chi gyd yn ei mwynhau ar ôl hynny.
Bluesky
Mae Bluesky yn llwyfan sy’n tyfu ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn canolbwyntio ar sgyrsiau agored a chymunedau. Mae’n cael ei ddefnyddio mwy a mwy gan newyddiadurwyr, ymgyrchwyr a sefydliadau i rannu diweddariadau a thrafod materion cyfredol.
Os yw eich grŵp yn gysylltiedig ag ymgyrchu, codi ymwybyddiaeth neu ymgysylltu â sgyrsiau cyhoeddus, gall Bluesky fod yn lle defnyddiol i gysylltu â chynulleidfaoedd ehangach.
Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol –
• Postiwch yn rheolaidd i ddangos bod eich grŵp yn weithredol – po fwyaf gweithredol yw eich cyfrif, y mwyaf tebygol y bydd pobl o weld eich cynnwys.
• Defnyddiwch luniau a fideos byr i ddod â’ch gwaith yn fyw – postio pethau sydd yn cynnwys pobl sy’n perfformio orau yn aml, felly ceisiwch gynnwys gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned pan fo hynny’n bosibl.
• Dathlwch eich gwirfoddolwyr a chydnabod eu cyfraniadau – gall hyn fod mor syml â rhannu post yn dweud diolch neu’n amlygu stori gwirfoddolwr.
• Hyrwyddwch ddigwyddiadau’n gynnar a rhannu negeseuon atgoffa yn agosach at y dyddiad – mae pobl yn brysur, felly gall negeseuon atgoffa cyfeillgar helpu i hybu presenoldeb.
• Ymgysylltwch â’ch cynulleidfa trwy ateb sylwadau a negeseuon – mae ymateb i bobl yn dangos bod eich grŵp yn weithredol ac yn groesawgar. Gall hefyd helpu eich post i gyrraedd mwy o bobl, gan fod llwyfannau’r cyfryngau cymddeithasol yn aml yn rhoi blaenoriaeth i gyfrifon sy’n rhyngweithio â’u cynulleidfaoedd.
Yn bwysicaf oll, peidiwch â bod ofn rhannu eich cyflawniadau. Mae dathlu eich gwaith yn helpu i ysbrydoli eraill ac mae’n dangos y gwahaniaeth y gall gweithredu cymunedol ei wneud!