Cystadleuaeth i ysgolion yng Nghymru
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac wedi’i ysbrydoli gan Wobr Earthshot, mae’r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr i arddangos eu creadigrwydd, eu hangerdd a’u syniadau ar gyfer planed well.
Mae’r her hon yn ymwneud â dathlu atebion sydd wedi’u creu yn barod neu’n cael eu cynllunio mewn ysgolion yn ogystal â defnyddio meddylfryd dylunio i ddod o hyd i atebion newydd i un o’r pum her fyd-eang.
Rydym yn chwilio am fideos byr, creadigol gan ddysgwyr 5 – 18 oed.
Bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo fawreddog yn haf 2026!
Mae ceisiadau ar gyfer Her Hinsawdd Cymru 2026 bellach wedi cau.
Sut mae’n gweithio?
Dyma ganllaw cam wrth gam ar gyfer Her Hinsawdd Cymru:
Dewiswch ba thema y byddwch yn ffocysu eich her arni. Cliciwch ar y dolenni isod am fwy o wybodaeth:
Ar ôl i chi ddewis eich thema, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth. Bydd aelod o’r tîm Eco-sgolion yn cysylltu â chi gyda chanllawiau pellach, adnoddau defnyddiol a manylion ar sut i gyflwyno eich cais.
Mae pob thema Earthshot yn ymdrin ag ystod o feysydd eraill y gallwch eu dewis i archwilio’n fanylach. Er enghraifft, gallwch ddewis archwilio pam yr ydym yn gwastraffu cymaint o fwyd fel rhan o Fyd Diwastraff, neu rôl gwymon o fewn Trwsio ein Hinsawdd.
Mae Gwefan Generation Earthshot yn lle gwych i ddechrau cael syniadau ar gyfer archwilio’r broblem a blaenoriaethu maes. Rydym hefyd wedi rhoi llawer o adnoddau o’n partneriaid Eco-Sgolion at ei gilydd i helpu gyda phob cam o’ch her.
Sut fyddwch chi’n cymryd camau gweithredu arloesol yng nghymuned eich ysgol i fynd i’r afael â’ch her ddewisol?
Gallwch naill ai adeiladu ar brosiect yr ydych wedi’i ddechrau yn barod, neu gynllunio a dechrau prosiect newydd i’w weithredu.
Cofiwch feddwl am eich effaith. Dywedwch wrthym y canlyniadau o’r hyn rydych yn ei wneud neu’n cynllunio i’w wneud. Sut y byddwch yn mesur yr effaith a rhannu eich gwaith gyda’r gymuned ysgol gyfan?
Ar ôl i chi wneud y gwaith cefndirol ac mae’r syniadau gennych, rydych chi’n barod i ffilmio.
Rydym am i chi fod mor greadigol â phosibl; ond cofiwch gynnwys y canlynol yn eich fideo:
- Cyflwyno eich ysgol a’ch Earthshot a pham rydych wedi dewis yr her hon.
- Rhannu ateb eich ysgol – beth ydych chi wedi’i wneud neu’n cynllunio i’w wneud nesaf a pham?
- Sut mae wedi gwneud gwahaniaeth a sut fyddwch chi’n gwybod a yw’r syniad wedi gwneud gwahaniaeth?
- Rhannu eich ateb arloesol cenedlaethol neu ryngwladol, yr ymchwil y tu ôl iddo a’r effaith yr ydych yn gobeithio y gall ei wneud.
- Unrhyw wybodaeth arall yr hoffech gynnwys sy’n berthnasol i’r beirniaid.
Dylech chi ffilmio eich fideos mewn modd tirwedd ac nid ddylai’r fideo fod yn fwy na thri munud o hyd.
Croesawir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg a gallem dderbyn hyd at bum cais o bob ysgol.

Bydd ceisiadau yn cael eu beirniadu gan banel allanol yn ystod mis Ebrill a bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori yn cael eu hysbysu ym mis Mai.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn haf 2026 (byddwn yn talu costau teithio a bwyd ar gyfer y cystadleuwyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol).
Mae ceisiadau ar gyfer Her Hinsawdd Cymru 2026 bellach wedi cau.
Yr Earthshots
Bydd angen i chi ddewis un o bum thema Earthshot ar gyfer eich fideo Her Hinsawdd Cymru. Cliciwch ar y blychau i ddysgu mwy, a gwyliwch enillwyr a chystadleuwyr terfynol y llynedd i gael ysbrydoliaeth.
Adeiladu Byd Diwastraff
Darganfod
Glanhau Ein Haer
Darganfod
Trwsio Ein Hinsawdd
Darganfod
Adfywio ac Adfer Natur
Darganfod
Adfywio Ein Cefnforoedd
Darganfod
Rwyf wrth fy modd y bydd Her Hinsawdd Cymru yn dychwelyd yn 2026. Eleni, cawsom ein syfrdanu gan greadigrwydd a phenderfyniad pobl ifanc ledled Cymru, ac alla i ddim aros i weld sut maen nhw'n adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Mae'r her yn rhoi cyfle i ddysgwyr droi eu syniadau'n weithredu a rhannu eu hatebion ar lwyfan cenedlaethol. Yn Cadwch Gymru'n Daclus, trwy'r rhaglen Eco-Sgolion, rydym yn falch o chwarae rhan gefnogol fach wrth iddynt arwain y ffordd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus