JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Adfywio ac Adfer Natur

Mae’r byd naturiol yn anhygoel ac wedi esblygu i fod mewn cydbwysedd perffaith, gyda phopeth byw yn chwarae rhan bwysig ynddo.  

Yn anffodus, mae natur dan fygythiad ac mae gweithredoedd bodau dynol yn cael effaith negyddol ar gynefinoedd yn lleol ac yn fyd-eang.  

Diolch byth, mae natur yn rhoi’r atebion i lawer o’r heriau y mae ein planed yn eu hwynebu! 

Mae gweithio gyda natur a’i hadfer yn helpu ein hinsawdd; Mae’n helpu i ddarparu dŵr glân, aer glân ac yn creu byd diwastraff! 

Ar gyfer yr her hon gallech ystyried: 

  • Rhywogaethau dan fygythiad yn lleol a sut i’w cefnogi 
  • Atebion sy’n seiliedig ar natur  
  • Sut i osgoi datgoedwigo a chymryd camau i ailgoedwigo 
  • Adfywio ffermio a thyfu eich bwyd eich hun 
  • Creu cynefinoedd  

Mae ceisiadau ar gyfer Her Hinsawdd Cymru 2026 bellach wedi cau.

Nôl i Her Hinsawdd Cymru
Ffrydiau golau haul gyda choed bytholwyrdd tal.
Ffrydiau golau haul gyda choed bytholwyrdd tal.

Gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer yr her hon

Bydd angen i chi ymdrin â’r pwyntiau canlynol yn eich fideo.  

  • Cyflwyno eich ysgol a’ch Earthshot a pham y gwnaethoch ddewis yr her Adfywio ac Adfer Natur.  
  • Rhannu eich ateb yn yr ysgol – beth ydych chi wedi’i wneud neu’n bwriadu ei wneud a pham?  
  • Sut mae wedi gwneud gwahaniaeth neu sut y byddwch chi’n gwybod a yw eich syniad wedi gwneud gwahaniaeth?  
  • Rhannu eich datrysiad arloesol fyd-eang, yr ymchwil y tu ôl iddo a pha effaith y byddech chi’n gobeithio y gall ei chael. 
  • Unrhyw wybodaeth arall yr ydych am ei chynnwys sy’n berthnasol i’r beirniaid.  

Cofiwch fod yn greadigol gyda’ch fideo a cheisio ‘gwerthu’ eich syniad!  

Dylech chi ffilmio fideos mewn modd tirwedd ac ni ddylai’r fideos fod yn hwy na thri munud. 

Mae croeso i geisiadau yn Gymraeg a Saesneg, a gallwn dderbyn hyd at bum cais o bob ysgol. 

Gwyliwch enillydd a chystadleuwyr y rownd derfynol llynedd a chael eich ysbrydoli

Enillydd: Ysgol Clywedog Dysgwch Mwy Ymgeisydd Terfynol: St Mary's Roman Catholic Primary School Dysgwch Mwy Ymgeisydd Terfynol: Prendergast Community School Dysgwch Mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13