Gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer yr her hon
Bydd angen i chi ymdrin â’r pwyntiau canlynol yn eich fideo.
- Cyflwyno eich ysgol a’ch Earthshot a pham y gwnaethoch ddewis yr her Adfywio ac Adfer Natur.
- Rhannu eich ateb yn yr ysgol – beth ydych chi wedi’i wneud neu’n bwriadu ei wneud a pham?
- Sut mae wedi gwneud gwahaniaeth neu sut y byddwch chi’n gwybod a yw eich syniad wedi gwneud gwahaniaeth?
- Rhannu eich datrysiad arloesol fyd-eang, yr ymchwil y tu ôl iddo a pha effaith y byddech chi’n gobeithio y gall ei chael.
- Unrhyw wybodaeth arall yr ydych am ei chynnwys sy’n berthnasol i’r beirniaid.
Cofiwch fod yn greadigol gyda’ch fideo a cheisio ‘gwerthu’ eich syniad!
Dylech chi ffilmio fideos mewn modd tirwedd ac ni ddylai’r fideos fod yn hwy na thri munud.
Mae croeso i geisiadau yn Gymraeg a Saesneg, a gallwn dderbyn hyd at bum cais o bob ysgol.







