A A A

Cyflwyno Bin Môr Abertawe

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno â Chyngor Abertawe i lansio treial Bin Môr arloesol ym Marina Abertawe. Mae’r genhadaeth yn glir: Mynd i’r afael â sbwriel morol yn uniongyrchol i amddiffyn ein hamgylchedd morol.

Mae’r dechnoleg arloesol hon wedi’i dylunio i gael gwared ar sbwriel a malurion arnofiol, gan wella glendid dyfroedd y marina wrth helpu i ddiogelu’r amgylchedd ehangach.

Mae’r Bin Môr yn ddyfais siâp bwced sy’n codi ac yn disgyn gyda’r llanw, gan gasglu sbwriel arnofiol a malurion. Wrth i ddŵr gael ei dynnu i mewn gan bwmp, mae’n mynd trwy fag dal, gan ddal y gwastraff. Yna mae dŵr glân yn cael ei bwmpio yn ôl allan, tra bod sbwriel a malurion yn cael eu cadw’n ddiogel i’w gwaredu’n iawn. Wedi’i bweru 24 awr y dydd, mae gan y Bin Môr gapasiti o 30 litr i gasglu gwastraff, a fydd yn lleihau effeithiau sbwriel ar draws yr ardal leol.

Bydd y Bin Môr yn cael ei fonitro dros gyfnod prawf i ymchwilio i’r hyn y mae’n ei gasglu, ac i wirio am unrhyw effeithiau anfwriadol neu ryngweithio â bywyd gwyllt.

Ariennir menter Bin Môr gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio gyda Chyngor Abertawe i gael gwared ar sbwriel a gwastraff.

Erthyglau cysylltiedig

RSPCA gefnogi Gwanwyn Glân Cymru

02/04/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy