Datganiad yn dilyn gosod Rheoliadau’r Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026 gan Lywodraeth Cymru:
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn galw am gynllun dychwelyd ernes ers bron dau ddegawd, ac rydym yn croesawu’r cadarnhad bod Cymru’n bwriadu symud ymlaen â chynllun sydd yn cadw gwydr ac yn datblygu llwybru clir tuag at ailddefnyddio.
Mae cynlluniau dychwelyd ernes yn ei gwneud hi’n haws i bobl wneud y peth iawn, yn lleihau sbwriel ar ein strydoedd a’n traethau, ac yn cadw deunydd gwerthfawr mewn defnydd am fwy o amser. Mae’n ddull ymarferol, sydd wedi ei brofi all gyflawni buddion gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.
Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd wrth i’r rheoliadau symud trwy graffu yn y Senedd tuag at weithredu. Dyna pam mae’n galonogol gweld cefnogaeth ar draws y pleidiau am gynllun dychwelyd ernes cynhwysfawr, gan adlewyrchu’r consensws eang bod cymunedau glanach yn bwysig.
Gyda 86% o bleidleiswyr yn dweud y dylai sbwriel a thipio anghyfreithlon fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru, mae’n amlwg bod yn rhaid i ni gynyddu’r cynnydd tuag at Gymru daclusach, fwy cynaliadwy.
Parhewch i ddarllen...

Mae 330 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, y nifer uchaf erioed, wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Baner Werdd 2026 wrth i’r wobr ryngwladol ddathlu 30 mlynedd
Darllen rhagor
Gweinidog Cabinet a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn uno i alw am haf o godi sbwriel
Darllen rhagor
Mae mwy na thri chwarter o ysgolion ledled Cymru yn cymryd camau dros yr amgylchedd
Darllen rhagor








