JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruEraillI fusnesauSbwriel a gwastraff

Trefnwch gasgliad Prosiect Ailwampio gyda Cadwch Gymru’n Daclus

Rhannu

O fis Ebrill 2026, bydd angen i bob gweithle yng Nghymru – yn cynnwys busnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus, elusennau ac ysgolion – wahanu deunyddiau ailgylchu, yn cynnwys cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE), a sicrhau eu bod yn cael eu casglu ar gyfer ailgylchu. Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu cynllunio i leihau gwastraff, atal llygredd a chadw deunyddiau gwerthfawr yn weithredol am fwy o amser.

Ni all eitemau trydanol fel gliniaduron, bysellfyrddau, peiriannau argraffu, ffonau a cheblau gael eu trin fel gwastraff cyffredinol bellach. Mae’n rhaid i sefydliadau gymryd cyfrifoldeb dros storio, trin a gwaredu sWEEE yn gywir.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnig datrysiadau ailgylchu trydanol effeithiol, sy’n eich galluogi i roi i ni er mwyn cefnogi ein gwaith hanfodol ar yr un pryd.

Gwyliwch ein fideo byr i weld sut mae’r cynllun yn gweithio yn ymarferol

Datrysiad syml: trefnu casgliad Prosiect Ailwampio

Yn Cadwch Gymru’n Daclus, gallwn helpu i’w wneud yn hawdd i sefydliadau fodloni’r gofynion newydd hyn trwy gynnal amnest nwyddau trydanol ar eich safle.

Mae ein cynllun ailgylchu trydanol – wedi ei gyflwyno mewn partneriaeth ag A&LH Environmental Ltd – yn cael ei gydnabod fel enghraifft o arfer da gan Climate Action Wales, menter Llywodraeth Cymru.

Mae Prosiect Ailwampio yn rhoi cyfle i’ch sefydliad a’i staff i:

  • Glirio cyfarpar TG a thrydanol sydd yn hen neu’n ddiangen.
  • Ailgylchu WEEE yn gyfreithlon ac yn gynaliadwy.
  • Sicrhau bod yr holl ddata’n cael ei ddinistrio’n ddiogel.
  • Cefnogi ailddefnyddio a’r economi gylchol.
  • Codi arian ar gyfer gwaith amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus ledled Cymru.

Beth sy’n digwydd i’ch eitemau trydanol?

Mae’r holl eitemau’n cael eu casglu gan ein partner ailgylchu A&LH Environmental Ltd ac yna’n mynd i’w cyfleuster prosesu yn y Barri, De Cymru.

Bydd pob eitem yn cael ei hasesu â llaw i bennu a ellir ei hailddefnyddio, ei huwchraddio neu ei hailgylchu:

  • Lle y bo’n bosibl, bydd cyfarpar yn cael ei uwchraddio a’i ailddefnyddio.
  • Bydd yr holl ddata’n cael ei ddileu’n ddiogel cyn ei ailddefnyddio.
  • Bydd eitemau sydd yn methu cael eu hailddefnyddio yn cael eu torri i lawr i gael eu hailgylchu.

Mae’r dull hwn yn cynyddu’r buddion amgylcheddol ac yn lleihau faint o wastraff trydanol sy’n cael ei anfon i gael ei waredu.

Costau a chasgliadau

  • Mae casgliadau am ddim ar gael os oes gennych fwy na 30 o eitemau a dderbynnir.
  • Os oes gennych lai na 30 o eitemau a dderbynnir, codir tâl casglu o £50.
  • Gall eitemau sydd ddim yn cael eu derbyn eu casglu, ond bydd taliadau gwaredu yn berthnasol.

Mae amnest am ddim ar gael ar hyn o bryd ledled De Cymru. Gallai casgliadau mewn mannau eraill o Gymru fod yn bosibl yn dibynnu ar y lleoliad a nifer yr eitemau.

Adrodd, ardystio a buddion CSR

Ar ôl eich amnest, byddwch yn derbyn:

  • Dadansoddiad llawn o’r eitemau yn ôl math, pwysau a chanlyniad ailddefnyddio/ailgylchu
  • Tystysgrifau ailddefnyddio, ailgylchu a dinistrio data
  • Dogfennau dyletswydd gofal WEEE perthnasol
  • Ardystiad dewisol yn dangos yr arian a godwyd i Cadwch Gymru’n Daclus – delfrydol ar gyfer CSR ac adrodd ar gynaliadwyedd

Am fwy o wybodaeth am Brosiect Ailwampio, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin yma.

Barod i drefnu eich casgliad Prosiect Ailwampio?

I sefydlu amnest e-bostiwch: recycling@keepwalestidy.cymru

Byddwn yn anfon popeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni ac yn trefnu dyddiad casglu, fel arfer o fewn pythefnos.

 

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13