Dathlu ein gwirfoddolwyr anhygoel
Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr yw Diwrnod Gwirfoddolwyr Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig – adeg fyd-eang i ddiolch i’r gwirfoddolwyr ac i arddangos eu hymdrechion. Ac, wrth i ni ddod i ddiwedd blwyddyn anodd, mae thema ddewisol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2020, #Gyda’nGilyddGallwn yn sicr yn berthnasol.
Ymysg yr holl ansicrwydd, ofn a rhwystredigaeth, cafwyd llygedyn o obaith a phositifrwydd yn ystod y pandemig. I mi, un elfen gadarnhaol oedd y teimlad cryf o gadernid ac ‘undod’. Nid yw’n syndod bod gwirfoddolwyr wedi bod wrth wraidd yr ymateb cadarnhaol hwn yng Nghymru.
Ar draws y wlad, mae gwirfoddolwyr newydd a phresennol wedi camu i’r adwy i ofalu am eu cymdogion a’u cymunedau, gan ddangos ymrwymiad, trugaredd a chadernid anhygoel.
Effaith ein gwirfoddolwyr
Trwy gydol y pandemig, mae Gwirfoddolwyr Cadwch Gymru’n Daclus wedi parhau i godi sbwriel yn eu hardaloedd lleol, gan helpu i gadw mannau awyr agored yn lân ac yn ddiogel i ni gyd eu mwynhau.
Mae’r niferoedd yn siarad drostynt eu hunain.
Ers mis Mawrth, mae ein Harwyr Sbwriel, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr â’r hyb wedi cysegru dros 14,000 o oriau i ofalu ar ôl ein hamgylchedd. Gyda’i gilydd, maent wedi casglu 17,000 o fagiau o sbwriel ac ailgylchu.
Cawsom hefyd ein calonogi gan y gefnogaeth a dderbyniodd Hydref Glân Cymru. Er ei fod yn wahanol iawn i’n hymgyrchoedd arferol, cymerodd dros 1,100 o wirfoddolwyr ran mewn bron 200 o ymgyrchoedd glanhau gan gadw pellter cymdeithasol. Rydym yn llawn cyffro o wybod bod llawer o’r arwyr sbwriel a ymunodd yn gwirfoddoli gyda ni am y tro cyntaf erioed.
Diolch - thank you
Ar ran pawb yn Cadwch Gymru’n Daclus, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n gwirfoddolwyr – o newydd-ddyfodiaid glanhau i Arwyr Sbwriel cyfarwydd. Rydych i gyd wedi mynd y tu hwnt i’r gofynion eleni ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.
Ymlaen i 2021, oherwydd #Gyda’nGilyddGallwn
Parhewch i ddarllen...

Cyflwyno Eco-Tots Cymru: ysbrydoli cenhedlaeth ieuengaf Cymru
Darllen rhagor
48 lleoliad yng Nghymru yn cael eu coroni gyda’r traethau a’r marinas gorau yn y byd
Darllen rhagor
Lansio prosiect Y Goedwig Hir Drefol i adfer coedwrych Cymru
Darllen rhagor








