Mae clymblaid o sefydliadau amgylcheddol ac elusennol yng Nghymru wedi ysgrifennu at Ysgrifenyddion Gwladol Llywodraeth y DU dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Busnes a Masnach, a Chymru, gan eu hannog i gymeradwyo eithriad o dan Ddeddf y Farchnad Fewnol er mwyn galluogi Cymru i fwrw ymlaen â’i Chynllun Dychwelyd Ernes (DRS) arfaethedig.
Mae’r llythyr agored yn tynnu sylw at hanes cryf a sefydledig Cymru o arwain ar bolisi amgylcheddol, gan gyfeirio at fentrau llwyddiannus megis y tâl am fagiau plastig, a gyflwynwyd gyntaf yng Nghymru ac a fabwysiadwyd wedyn yn ehangach ledled y DU. Dadleua’r sefydliadau fod y Cynllun Dychwelyd Ernes yn dilyn yr un egwyddor o wneud penderfyniadau datganoledig, gan ganiatáu i Gymru ddatblygu atebion sy’n adlewyrchu ei heriau amgylcheddol a’i hanghenion cymunedol ei hun.
Sbwriel diodydd
Datblygwyd cynllun arfaethedig Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys poteli plastig, caniau a gwydr, dros sawl blwyddyn gyda mewnbwn gan fusnesau, awdurdodau lleol a’r trydydd sector, ac fe’i deddfwyd gan y Senedd yn ddidwyll. Yng Nghymru, ceir deunyddiau a dargedir gan DRS mewn dros hanner ein mannau cyhoeddus, gyda data gan y Marine Conservation Society yn dangos bod gwydr ar 49% o draethau Cymru (2024), a data o arolygon sbwriel newydd GLÂN Cadwch Gymru’n Daclus yn dangos bod gwydr wedi torri yn bresennol mewn tua 8% o leoliadau (2025). Mae hyn yn codi pryderon clir ynghylch diogelwch y cyhoedd, niwed amgylcheddol a chostau glanhau.
Cefnogaeth gyhoeddus
Mae cefnogaeth y cyhoedd i gynllun cynhwysfawr hefyd yn gryf. Mae tystiolaeth o ymgynghoriad ar draws y DU yn dangos bod 86% o ymatebwyr yn cefnogi cynnwys gwydr mewn Cynllun Dychwelyd Ernes. Mae ymgyrchwyr hefyd yn nodi bod gwydr yn rhan ganolog o’r cynllun DRS arfaethedig gwreiddiol ar gyfer y DU, a bod penderfyniadau diweddarach ar lefel Llywodraeth y DU, yn hytrach na phenderfyniadau a wnaed yng Nghymru, wedi arwain at y gwahaniaeth presennol.
Mae profiad rhyngwladol yn dangos mai cynlluniau dychwelyd ernes cynhwysfawr, gan gynnwys gwydr, yw’r rhai mwyaf cyffredin ac effeithiol. Mae enghreifftiau o wledydd a systemau ffederal megis Canada ac Awstralia yn dangos bod amrywiadau rhwng gwledydd neu ranbarthau yn gallu gweithio’n dda yn ymarferol.
Mae’r sefydliadau’n rhybuddio y byddai atal Cymru rhag gweithredu ei chynllun yn codi cwestiynau ehangach ynghylch gallu llywodraethau datganoledig i gynllunio a deddfu gyda hyder mewn meysydd sydd yn glir o fewn eu cyfrifoldeb.
Cefnogir y llythyr gan Cadwch Gymru’n Daclus ochr yn ochr â Surfers Against Sewage; Cyswllt Amgylched Cymru; a Trash Free Trails a sy’n galw ar Lywodraeth y DU i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru a chaniatáu i Gymru fwrw ymlaen â’i Chynllun Dychwelyd Ernes arfaethedig, gan gynnwys gwydr a darpariaeth ar gyfer ailddefnyddio.
Lawrlwythiau
Parhewch i ddarllen...

48 lleoliad yng Nghymru yn cael eu coroni gyda’r traethau a’r marinas gorau yn y byd
Darllen rhagor
Lansio prosiect Y Goedwig Hir Drefol i adfer coedwrych Cymru
Darllen rhagor
Trefnwch gasgliad Prosiect Ailwampio gyda Cadwch Gymru’n Daclus
Darllen rhagor








