JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
GwirfoddoliMannau gwyrddPobl ifancSbwriel a gwastraff

Gwahodd grwpiau cymunedol i ddweud eu dweud!

Rhannu

Rydym ni’n galw ar grwpiau cymunedol ledled Cymru i gymryd rhan mewn arolwg newydd sydd wedi’i gynllunio i lywio cymorth yn y dyfodol a chryfhau gweithredu ar lawr gwlad. 

Rydym ni am gael darlun cliriach o’r heriau a’r anghenion mae grwpiau lleol yn eu hwynebu, fel y gallwn ni ddarparu hyfforddiant, adnoddau, a chyfleoedd mwy effeithiol i rannu dysgu. 

Fel rhan o’r fenter, rydym ni hefyd yn awyddus i nodi grwpiau a allai fod yn fodlon cefnogi eraill ar eu taith. 

Mae grwpiau cymunedol wrth wraidd ymdrechion i greu Cymru harddach sy'n ddi-sbwriel. Drwy gwblhau'r arolwg byr hwn, gall grwpiau ein helpu i ddylunio'r gefnogaeth gywir er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu.

Joanna Friedli Rheolwr Ardal Cadwch Gymru'n Daclus

Llywio cefnogaeth yn y dyfodol

Bydd yr adborth a gasglwyd yn llywio rhaglenni hyfforddiant ac adnoddau yn y dyfodol, gan sicrhau bod y cymorth yn cael ei deilwra i’r hyn sydd ei angen fwyaf ar gymunedau. 

Anogir grwpiau cymunedol i gymryd ychydig funudau i gwblhau’r arolwg a chwarae rôl wrth lunio dyfodol gweithredu ar lawr gwlad yng Nghymru. 

Cwblhau’r arolwg

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13