Mae rhaglen waith fawr ar y gweill ledled Cymru i adfer a diogelu coedwrych a choed hynafol, wrth i Cadwch Gymru’n Daclus gyflwyno Prosiect y Goedwig Hir Drefol gyda chefnogaeth grant o £777,628 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Y prosiect
Bydd y prosiect, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn rhedeg o Ebrill 2026 i Fehefin 2029 a bydd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd coedwrych, tra’n cynnwys cymunedau trefol yn y gwaith o ofalu amdanynt, eu hadfer a’u diogelu yn yr hirdymor.
Bydd y gwaith yn digwydd ar draws Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam, gan gefnogi gweithredu lleol i adfer coedwrych sydd yn ffurfio rhan hanfodol o dreftadaeth naturiol Cymru. Mae coedwrych yn nodwedd sy’n diffinio tirwedd Cymru, gan gefnogi amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt a gweithredu fel coridorau byw sy’n cysylltu mannau gwyrdd toredig. Ond, maent o dan bwysau cynyddol mewn ardaloedd trefol, oherwydd rheolaeth amhriodol, esgeulustod a datblygiad.
Yr hyn mae’r rhifau’n ei ddweud wrthym
Yn ôl adroddiad Diogelu Coedwrych yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, mae 78% o goedwrych Cymru bellach mewn ‘cyflwr anffafriol’, sy’n pwysleisio’r dirywiad hirdymor y mae’r cynefin hwn wedi ei wynebu a’r angen am weithredu parhaus.
Mae Prosiect y Goedwig Hir Drefol yn cyfuno cadwraeth, addysg ac ymgysylltu cymunedol i helpu i wrthdroi’r duedd hon, gan gefnogi pobl i ddeall, gwerthfawrogi a gofalu am goedwrych yn well yn eu hardaloedd lleol.
Mae’r cyllid hwn yn gam enfawr ymlaen i natur drefol yng Nghymru. Mae coedwrych wedi cael eu hanwybyddu am yn rhy hir, ond dyma un o’n hoffer mwyaf pwerus yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Bydd Y Goedwig Hir Drefol yn helpu cymunedau i ailddarganfod eu gwerth a gweithredu i’w diogelu. Rydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio gyda phartneriaid a phobl leol ledled Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam i wireddu’r weledigaeth hon.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Trwy’r prosiect hwn, bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig, ac awdurdodau lleol i gyflwyno rhaglen addysg, hyfforddiant, a gweithgareddau cadwraeth ymarferol.
Mae’r Goedwig Hir Drefol yn gwneud cymunedau yn ganolog i ofalu am dreftadaeth naturiol drefol Cymru. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect yn helpu i ddiogelu coedwrych a choed hynafol tra’n creu cyfleoedd newydd i bobl gysylltu â’r nodweddion pwysig hyn o’n tirwedd.
Andrew White Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae Coed Cadw yn falch o gefnogi Prosiect y Goedwig Hir Drefol Cadwch Gymru’n Daclus, sy’n cryfhau ein cais am degwch i goed a chydnabod coed hynafol a coed sydd wedi goroesi mewn cymdogaethau trefol.
Mae ein ffocws cryf ar ymgysylltu cymunedol yn grymuso pobl i gysylltu â natur ac eirioli dros fynediad teg a chyfartal i’r buddion iechyd, lles ac amgylcheddol lluosog y mae coed yn eu darparu.
Kylie Jones Mattock Cyfarwyddwr Coed Cadw
Mae Addysg Oedolion Cymru wrth ein bodd i fod yn rhan o brosiect newydd Y Goedwig Hir Drefol. Bydd yn cyflwyno cyfres o gyrsiau achrededig mewn Crefftau Traddodiadol a Threftadaeth, gan ganolbwyntio ar dechnegau tecstiliau a phapur cynaliadwy, gan gynnwys gwehyddu, clytwaith a rhwymo llyfrau. Mae’r cyrsiau hyn, wedi eu ffurfio gan lais ac adborth dysgwyr, wedi cael eu hysbrydoli gan natur, coedwrych a’r gofod gwyrdd yn ardaloedd trefol Wrecsam, Caerdydd, Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot.
Bydd dysgwyr ledled Cymru yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd, archwilio mannau gwyrdd a defnyddio’r profiadau hyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer eu prosiectau terfynol gyda’r opsiwn o fynd ymlaen i weithgareddau pellach Y Goedwig Hir Drefol.
Karina Scott Rheolwr Contractau Addysg Oedolion Cymru
Mae Llais y Goedwig yn llawn cyffro i fod yn rhan o fenter mor groesawgar – bydd cysylltu coetir a chymunedau presennol gyda choedwrych a chynnwys pobl mewn ardaloedd trefol yn y gwaith o’u creu a gofalu amdanynt yn chwarae rôl hanfodol yn creu a chynnal ein cysylltiadau gyda’r byd naturiol a sicrhau eu stiwardiaeth barhaus.
Maria Wilding Llais y Goedwig
Eisiau cymryd rhan?
Bydd mwy o wybodaeth am Brosiect y Goedwig Hir Drefol a chyfleoedd i gymryd rhan ar gael yn: www.keepwalestidy.cymru/cy/coedwig-hir-drefol/












