A A A

Meddyliau ifanc wedi eu grymuso yn cymryd yr awenau mewn cynadleddau cynaliadwyedd

Cafodd dros 160 o fyfyrwyr o Eco-Sgolion ledled Cymru y cyfle i gyfarfod ag arbenigwyr a thrafod materion amgylcheddol allweddol mewn dwy gynhadledd cynaliadwyedd yr wythnos diwethaf.

Roedd cynadleddau ‘Ein Daear; Ein Dyfodol’, a drefnwyd mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru yn Abertawe a Bangor, yn rhan o gyfres o naw o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled Cymru a Lloegr.

Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau cymysgedd o sesiynau gweithdy oedd yn cynnwys trafodaeth iach am y ffordd y gallwn greu dyfodol mwy cynaliadwy trwy leihau gwastraff a gwneud y gorau o adnoddau. Cawsant hefyd y cyfle i holi panel o arbenigwyr diwydiant ar ‘yrfaoedd gwyrdd’, dysgu sut mae cynaliadwyedd yn cael ei sefydlu mewn amrywiaeth o sectorau, yn cynnwys adeiladu, dylunio cynnyrch a ffermio.

“Mae’n rhaid i ni ailystyried ein blaenoriaethau”

Cyflwynodd myfyrwyr o Ysgol Bassaleg yng Nghasnewydd gyflwyniad pwerus i gynadleddwyr Abertawe ar bwysigrwydd addysg hinsawdd a rhannu awgrymiadau ar gyfer cynnwys pobl ifanc yn ein gwaith amgylcheddol. Dywedodd Rowan, myfyriwr blwyddyn 11 yn Ysgol Bassaleg: “Mae’n rhaid i ni ailystyried ein blaenoriaethau ar gyfer ein cenhedlaeth ni, a chenedlaethau’r dyfodol.”

Ariannwyd cyfres o gynadleddau ‘Ein Daear, Ein Dyfodol’ 2024 gan Sefydliad Paul Hamlyn yn genedlaethol, gyda chymorth gan gynghorwyr yr elusen addysg hinsawdd Let’s Go Zero. Yng Nghymru, cefnogwyd y digwyddiadau gan Maint Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Chyfoeth Naturiol Cymru. Cafodd y syniad ei arloesi gan yr addysgwr dylanwadol, Syr Tim Brighouse cyn iddo ein gadael ym mis Rhagfyr 2023.

Gan siarad ar ôl y cynadleddau, dywedodd Bryony Bromley, ein Rheolwr Addysg:

Roedd yn rhagorol dod â chymaint o fyfyrwyr ysgol uwchradd at ei gilydd yn y cynadleddau Ein Daear, Ein Dyfodol; rwyf wedi cael fy synnu gan eu hangerdd, eu chwilfrydedd a’u penderfynoldeb i ddod o hyd i atebion arloesol i fynd i’r afael â’n hargyfwng hinsawdd. Mae’n dangos pa mor bwysig yw rhoi’r wybodaeth i fyfyrwyr ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol. Wedi’r cyfan, pobl ifanc heddiw yw gwneuthurwyr polisïau, perchnogion busnes a defnyddwyr yfory – a chyda’r cynnydd cyffrous mewn swyddi gwyrdd, mae ganddynt y potensial i effeithio ar newid ym mha bynnag ddiwydiant y maent yn dewis mynd i mewn iddo.

Bryony Bromley
Rheolwr Addysg

Dathlu 30 mlynedd o Eco-Sgolion

Y cynadleddau cynaliadwyedd oedd uchafbwynt tymor prysur o ddigwyddiadau i’n Tîm Addysg sydd wedi bod yn dathlu 30 mlynedd o’r rhaglen Eco-Sgolion.

Nôl ym 1994, cafodd Eco-Sgolion eu lansio yn Denmarc, yr Almaen, Groeg a’r DU. 30 mlynedd yn ddiweddarach a gellir gweld Eco-Sgolion mewn 75 o wledydd ar draws y byd, gyda bron 50,000 o ysgolion yn cymryd rhan.

Darllenwch gylchlythyr diweddaraf Eco-Sgolion i ganfod mwy am ein dathliadau

 

Erthyglau cysylltiedig

Dros 2,000 o erddi wedi eu trawsnewid. Mwy o becynnau i’w rhoi i ffwrdd!

02/05/2025

Darllen mwy
Menter ailgylchu cwpanau papur Deallusrwydd Artiffisial cynta’r byd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd

22/04/2025

Darllen mwy
Gwneud cyfraniad i Cadwch Gymru’n Daclus am ddim gydag easyfundraising!

02/12/2024

Darllen mwy
Datganiad CDE Cadwch Gymru’n Daclus Tachwedd 2024

19/11/2024

Darllen mwy