JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
GwirfoddoliGwobrau Baner WerddMannau gwyrddRhagoriaeth amgylcheddol

Cymru unwaith eto yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall yn y byd

Rhannu Lawrlwythiau

Mae Cymru wedi torri ei record ei hun am nifer y Baneri Gwyrdd sy’n chwifio mewn mannau gwyrdd heddiw, yn dilyn cyhoeddiad Cadwch Gymru’n Daclus o fannau sydd wedi cael Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd ar gyfer 2025/26. 

Mae’r 315 o safleoedd yn cynnwys parciau, campysau prifysgol, coetir cymunedol, mynwentydd, rhandiroedd ac ystadau tai. 

Nod Gwobr y Faner Werdd, sy’n cael ei chyflwyno gan Cadwch Gymru’n Daclus, yw cysylltu pobl â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau. Mae’r gwobrau yn meincnodi parciau a mannau gwyrdd, fel bod ymwelwyr yn gwybod, os oes Baner Werdd, eu bod yn ymweld â lle rhagorol gyda’r safonau uchaf. 

Mae’r safleoedd sydd newydd ennill Gwobr y Faner Werdd ar gyfer 2025/26 yn cynnwys Llyn Llandegfedd yn Sir Fynwy, Ysbyty Bronllys ym Mhowys, Tir Chwaraeon a Hamdden Parc Tredegar yng Nghasnewydd, a Chaeau Llandaf yng Nghaerdydd. 

Mae cyfanswm o 223 o safleoedd Cymunedol yn nodi’r nifer uchaf erioed unwaith eto i Gymru, sydd am yr ail flwyddyn yn olynol, â mwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall sy’n cyflwyno cynllun y Faner Werdd yn y byd 

Derbyniodd 35 o safleoedd cymunedol yng Nghymru Wobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf, sydd yn gam sylweddol ymlaen o ran argaeledd mannau gwyrdd o ansawdd da ar draws y wlad. Mae hyn yn cynnwys gardd gyntaf Sefydliad y Merched yng Nghymru yn Llanafan, Ceredigion, a’r ardd gorsaf radio gyntaf yn BGfm ym Mlaenau Gwent. 

Rwy’n falch iawn fod Cymru’n parhau i arwain y byd o ran safleoedd gwobr gymunedol y faner werdd.

Mae ein mannau gwyrdd lleol yn chwarae rôl hanfodol yn ein cysylltu â natur, cefnogi bioamrywiaeth a darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden iach, ac mae’n arbennig o galonogol i weld pobl nid yn unig yn defnyddio’r mannau hyn ond hefyd yn helpu i’w cynnal a’u cadw a’u gwella.

Mae’r safonau sydd eu hangen i gyflawni statws y Faner Werdd yn eithriadol o uchel, felly rwyf wrth fy modd i weld cymaint o safleoedd a sefydliadau amrywiol yn cael y gydnabyddiaeth flaenllaw hon a hoffwn longyfarch pawb sydd yn gysylltiedig am ddarparu cyfleusterau rhagorol sydd o fudd i gymunedau lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Huw Irranca-Davies Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd

Rydym wrth ein bodd i weld 315 o fannau gwyrdd ledled Cymru yn cael statws y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd eleni – sydd yn dyst i waith caled ac ymroddiad y rhai sy’n gofalu am y lleoedd arbennig hyn.

Rydym yn arbennig o falch fod Cymru wedi torri’r record am enillwyr y wobr gymunedol am yr ail flwyddyn yn olynol, gyda 223 o safleoedd yn cael eu cydnabod yn 2025. Mae’r cyflawniad hwn yn pwysleisio rôl hanfodol y mannau hyn yn cefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru.

Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Darganfyddwch ble mae’r parc Baner Werdd agosaf i chi

Mae rhestr lawn o’r holl fannau penigamp y gellir ei lawrlwytho isod. Neu ewch i’n map i chwilio am eich parc neu fan gwyrdd y Faner Werdd yn lleol.

Ewch i’r map

Ymunwch yn y dathliadau ar y cyfryngau cymdeithasol

I glywed y newyddion diweddaraf, dilynwch @GreenFlagWales ar y cyfryngau cymdeithasol #BanerWerddCymru 

Am gymorth cyfathrebu, cysylltwch â’r tim ar comms@keepwalestidy.cymru  

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13