JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Ieuenctid yn arwain y galw am weithredu hinsawdd yn COP Ieuenctid Cymru 2024

Rhannu

Daeth dros 320 o ddisgyblion ysgol i COP Ieuenctid Cymru eleni.

Wedi’i drefnu gan Maint Cymru a Cadwch Gymru’n Daclus, tynnodd y digwyddiad sylw at sut y gall cenhedloedd bach – fel Cymru – wneud cyfraniad enfawr tuag at y frwydr am ddyfodol cynaliadwy.

Cafodd mynychwyr gyfle i ddysgu gan arweinwyr brodorol o Genedl Wampís yn yr Amazon Periw, a rannodd eu profiadau a’u mewnwelediadau o ddiogelu un o ecosystemau mwyaf hanfodol y byd.

Yn ogystal â’r persbectif byd-eang hwn, roedd COP Ieuenctid Cymru yn cynnwys cyfres o weithdai a thrafodaethau difyr gydag arbenigwyr o Eco-Sgolion Cymru. Cafodd pobl ifanc gyfle i archwilio materion hinsawdd dybryd, gan gynnwys effaith dewisiadau bwyd, pwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd gan flaenoriaethu cynaliadwyedd.

Mae COP Ieuenctid Cymru yn ddigwyddiad hanfodol ar gyfer meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol. Trwy ddarparu llwyfan i bobl ifanc gysylltu ag arweinwyr brodorol, cydweithio â chyfoedion, a datblygu eu sgiliau, rydym yn eu grymuso i ysgogi newid cadarnhaol yn eu cymunedau a’r tu hwnt.
Efallai ein bod ni'n genedl fach, ond mae gennym ni lais mawr a phobl ifanc anhygoel. Gallwn wneud gwahaniaeth.

Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Rhannodd myfyrwyr o Ysgol Gyfun Sir Fynwy, sydd wedi bod yn gweithio i ddylunio bwydlen ysgol ddi-ddatgoedwigo, eu taith ysbrydoledig. Esboniodd ddau ddisgybl sut y cawsant eu hysbrydoli i weithredu er budd yr amgylchedd ac roeddent yn cydnabod yr effaith enfawr y mae dewisiadau bwyd yn ei chael ar y blaned. Mae’r korma ffacbys wedi’i brofi’n boblogaidd ar eu bwydlen ginio ac yn cael ei fwynhau gan staff a myfyrwyr bob wythnos. Dangosodd eu hymrwymiad i ddewisiadau bwyd cynaliadwy sut y gall gweithredu lleol gyfrannu at ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu i gyd-fynd ag Wythnos Hinsawdd Cymru a COP29 y Cenhedloedd Unedig yn Azerbaijan (11-22 Tachwedd). Roedd Aelodau’r Senedd yn cefnogi’r digwyddiadau. Yng Nghaerdydd, daeth y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies yn annerch y bobl ifanc. Tynnodd sylw at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddyfodol cynaliadwy ac  fe wnaeth annog pobl ifanc i barhau â’u hymdrechion. Daeth Rhun ap Iorwerth i Wrecsam hefyd a gyflwynodd araith rymusol ac atebodd gwestiynau heriol gan y disgyblion.

Ydych chi’n awyddus i ysbrydoli eich myfyrwyr? Edrychwch ar ein digwyddiadau Eco-Sgolion

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13